Gallai nifer yr achosion dyddiol o’r coronafeirws yng ngwledydd Prydain godi i 50,000 erbyn canol mis Hydref, gan arwain at 200 o farwolaethau dyddiol erbyn mis Tachwedd os nad oes camau i reoli’r cynnydd presennol.

Daw’r rhybudd gan brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Syr Patrick Vallance, a’r Athro Chris Whitty a oedd yn siarad mewn darllediad teledu byw ddydd Llun (Medi 21).

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n credu bod yr epidemig yn dyblu’n fras bob saith diwrnod”, meddai Syr Patrick Vallance.

Ychwanegodd fod “mwyafrif helaeth y boblogaeth yn parhau i fod yn agored i niwed” a bod angen gweithredu’n gyflym i ostwng nifer yr achosion.

Mae achosion yn cynyddu ymhlith pob grŵp oedran.

‘Chwe mis arall’

Dywedodd yr Athro Chris Whitty wrth y gynhadledd deledu y bydd y coronafeirws yn “broblem am chwe mis arall”.

“Mae’r tymhorau yn ein herbyn ni. Rydyn ni nawr yn mynd i’r tymhorau y mae feirysau resbiradol yn ffynnu ynddynt.

“Mae’r cyfnod nesaf yma o chwe mis yn un sydd angen ei gymryd o ddifrif,”.

Ddoe (Medi 20) cafodd 3,899 o achosion eu cofnodi yng ngwledydd Prydain, roedd 199 o’r rheiny yng Nghymru.

Brechlyn erbyn diwedd y flwyddyn?

Dywedodd Syr Patrick Vallance fod y gwaith o ddatblygu brechlyn yn mynd yn dda.

Eglurodd fod y Deyrnas Unedig mewn “sefyllfa dda” a’i bod yn bosibl y gallai brechlyn fod ar gael erbyn diwedd y flwyddyn ar gyfer rhai grwpiau.

“Yn y cyfamser mae’n rhaid i ni reoli hyn,” meddai.

Clo cenedlaethol

Yn dilyn adroddiadau bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, yn ystyried cyfnod clo o bythefnos yn Lloegr mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud nad yw hynny “ar fin digwydd” yng Nghymru.

“Nid ydw i’n credu fod [cyfnod clo cenedlaethol] ar fin digwydd, ond mae o hyd yn bosib”, meddai wrth BBC Radio Wales fore dydd Llun (Medi 21).

Mae cyfyngiadau lleol yn parhau mewn grym mewn dwy sir yng Nghymru – Caerffili a Rhondda Cynon Taf.