Mae Prydain wedi cyrraedd sefyllfa “tyngedfennol” yn y pandemig coronafeirws – dyna fydd rhybudd Prif Swyddog Meddygol Lloegr heddiw (Dydd Llun, Medi 21).

Mewn darllediad teledu heddiw mae disgwyl i’r Athro Chris Whitty ddweud bod gwledydd Prydain yn wynebu “gaeaf heriol iawn” gyda’r tueddiad ar hyn o bryd “yn mynd i’r cyfeiriad anghywir.”

Fe fydd hefyd yn amlinellu rheolau newydd llymach mewn ymdrech i leihau’r cynnydd yn nifer yr achosion o’r firws.

Bu Boris Johnson yn treulio’r penwythnos gyda gweinidogion ac ymgynghorwyr i drafod pa gamau i’w cymryd gan nad yw’n ymddangos bod y cynnydd mewn achosion yn arafu. Ond yn ôl adroddiadau mae rhai yn anghytuno bod angen cyflwyno mesurau pellach, gyda’r Canghellor Rishi Sunak yn rhybuddio y gallai niweidio’r economi.

Fe allai’r Prif Weinidog amlinellu mesurau newydd mewn cynhadledd i’r wasg mor fuan â dydd Mawrth.

Heddiw, fe fydd yr Athro Chris Whitty ynghyd a phrif ymgynghorydd gwyddonol y Llywodraeth Syr Patrick Vallance yn esbonio sut mae’r coronafeirws yn lledu yn y Deyrnas Unedig a’r sefyllfaoedd y gellir eu disgwyl wrth i’r gaeaf agosáu.

Fe fyddan nhw’n defnyddio data o wledydd eraill fel Sbaen a Ffrainc sy’n wynebu ail don o’r firws.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething wrth raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru bore ma ei bod yn bosib y bydd cyfyngiadau llymach yn cael eu cyflwyno yng Nghymru os ydy achosion yn parhau i godi.