Ar Ddiwrnod Heddwch y Byd (Medi 21), cyhoeddwyd fod pob prifysgol yng Nghymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth er mwyn sefydlu Academi Heddwch Cymru.

Cafodd y Memorandwm ei lofnodi ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Pwrpas yr Academi Heddwch yw ymestyn traddodiad Cymru o hyrwyddo a gweithio dros heddwch, ac mae’n fwriad i’r Academi ddatblygu a chyd-drefnu cymuned annibynnol o ymchwilwyr a fydd yn gweithio i roi heddwch ar yr agenda cenedlaethol.

Mewn cyd-destun rhyngwladol, bydd yn dod yn rhan o rwydwaith byd-eang o sefydliadau heddwch.

Amcanion cyffredinol yr Academi yw sicrhau bod Cymru’n gwneud cyfraniad i ymchwil o ansawdd rhyngwladol ac yn ymarfer heddwch, sicrhau bod ffocws ar heddwch i’w weld yn strategaethau a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru, a sicrhau bod y cyhoedd yn ymddiddori yn yr ymchwil a’r ymarfer heddwch.

Cefndir

Yn 2014 pasiodd Senedd Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol bryd hynny, eu cefnogaeth i sefydlu’r Academi Heddwch.

Arweiniodd hyn at sefydlu Menter Academi Heddwch Cymru, sef elusen fach a gafodd ei ffurfio yn 2015.

Mewn ymateb i’r llofnodi dywedodd Jill Evans, cadeirydd Menter Academi Heddwch Cymru: “Wedi misoedd o gyd-drafod, mae’n newyddion ardderchog i weld bod yr Academi Heddwch bellach yn barod i ddechrau ar ei waith o’i gartref yn y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd.

“Mae ganddo’r potensial i wneud cyfraniad pwysig i hybu heddwch a chyfiawnder yng Nghymru a thu hwnt.”

“Rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn llunio dyfodol heddychlon”

Mewn cyfnod o heriau cenedlaethol a byd-eang, mae’n “rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn llunio dyfodol heddychlon,” yn ôl yr Academi.

Wrth i brosiect arloesol ‘Cymru dros Heddwch’ ddirwyn i ben mae’r Academi Heddwch am sicrhau bod “gwaddol pwysig y gwaith yn parhau.”

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg, “Mae’r Academi Heddwch yn gynllun amserol a all gyfrannu at uchelgais heddwch Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

“O ran y gwaith adref a thramor, mae mewn sefyllfa unigryw i ddatblygu agenda heddwch yng Nghymru a thramor wrth i’r gwaith o adfer cymdeithas yn nyddiau’r pandemig fynd rhagddo.”