Wrth i’r Wythnos Ailgylchu ddechrau heddiw (Medi 21) mae ystadegau’n dangos fod mwy o bobol yn barod i newid eu harferion i helpu’r amgylchedd.
Dyma’r 17eg Wythnos Ailgylchu i gael ei chynnal gan Recycle Now, ac eleni mae’r grŵp yn canolbwyntio ar ddiolch i’r cyhoedd am barhau i ailgylchu, er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd eleni, dan y faner ‘Gyda’n gilydd – ailgylchwn.’
Mae ystadegau newydd yn dangos fod trigolion gwledydd Prydain yn poeni am yr amgylchedd nawr yn fwy nag erioed – gyda bron i 9 ymhob 10 cartref yn ‘ailgylchu’n rheolaidd.’
Dywedodd 73% o bobol eu bod yn barod i newid eu harferion er mwyn helpu’r amgylchedd, cynnydd o 5% ers 2019.
Dangosa’r ystadegau, a ddaw o ymchwil a gafodd ei wneud yn ystod y cyfnod clo a thrwy holiadur a gafodd ei chwblhau ym mis Gorffennaf, fod 93% o gartrefi yng ngwledydd Prydain yn credu fod gan ‘bawb gyfrifoldeb i wella’r amgylchedd.’
“Cyfle i ddiolch”
Dywedodd Peter Maddox, Cyfarwyddwr WRAP (The Waste and Resources Action Programme) ei bod yn “anhygoel gweld fod mwy o bobol nag erioed yn barod i gymryd cyfrifoldeb dros amddiffyn yr amgylchedd a phenderfynu ailgylchu, er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd eleni.
“Mae hyn yn rhywbeth allwn ni gyd ei wneud, lle bynnag ydym ni – gweithred unigol sydd yn gwneud newid mawr pan mae pawb yn ei chyflawni.”
“Mae’r Wythnos Ailgylchu eleni yn gyfle i ddiolch i bawb am barhau i ailgylchu, beth bynnag oedd yr amgylchiadau, ac i ddathlu fod pawb wedi dod at ei gilydd.
“Rhaid manteisio ar y cynnydd mewn agweddau cadarnhaol er mwyn gwneud yn well fyth flwyddyn nesaf!” meddai Peter Maddox.
Diolchodd Rebecca Pow, Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Prydain i’r “gweithwyr allweddol sydd wedi parhau i ailgylchu, i’r sector gwastraff ac i’r cyhoedd am eu hymdrechion parhaus i ailgylchu o ddydd i ddydd.
“Mae ailgylchu mwy o’n gwastraff wrth wraidd agenda’r llywodraeth i greu amgylchedd glanach.”