Mae Downing Street wedi gwadu adroddiadau yn y cyfryngau yn yr Eidal bod Boris Johnson wedi bod ar daith i Perugia ganol mis Medi.

Mewn datganiad gan faes awyr y ddinas, sydd wedi ymddangos mewn adroddiad yn La Repubblica, roedd Boris Johnson yn Perugia “dros y dyddiau diwethaf” a dywedodd ffynhonnell wrth y papur newydd bod y Prif Weinidog wedi “cyrraedd Ddydd Gwener, Medi 11 am 2pm ac wedi gadael ddydd Llun, Medi 14 am 7.45.”

Ond mae Rhif 10 wedi gwadu’r adroddiadau gan ddweud nad oes “unrhyw wirionedd” yn yr honiadau ac nad oedd Boris Johnson wedi teithio i’r Eidal “yn y misoedd diwethaf”.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Does dim gwirionedd i’r stori yma o gwbl. Nid yw’r Prif weinidog wedi teithio i’r Eidal yn ystod y misoedd diwethaf.”