Mae cyflogwyr ar draws gwledydd Prydain wedi ad-dalu mwy na £215miliwn i Lywodraeth Prydain mewn taliadau ffyrlo nad oeddent eu hangen.

Yn ôl ystadegau gan Gyllid a Thollau EM (HMRC), mae 80,433 o gyflogwyr wedi talu arian ffyrlo yn ôl i Lywodraeth Prydain yn wirfoddol hyd yn hyn.

Cafodd peth o’r arian ei ad-dalu, tra bod rhai cwmnïau wedi hawlio llai o arian ffyrlo na’r tro blaenorol.

Mae’r ffigwr, £125,756,121, yn gyfran fach iawn o’r £35.4 biliwn sydd wedi cael ei dalu drwy’r rhaglen ffyrlo.

Nid yw ond mymryn lleiaf o’r £3.5 biliwn tybiedig sydd wedi cael ei dalu mewn camgymeriad neu wedi cael ei dalu i rai sydd wedi twyllo’r system.

Croesawu’r cyflogwyr sydd wedi ad-dalu’r arian

Croesawodd HMRC y “cyflogwyr sydd wedi ad-dalu’r arian ffyrlo yn wirfoddol gan nad ydynt ei angen, neu gan eu bod yn sylweddoli eu camgymeriadau ac wedi dilyn ein canllawiau ar sut i wneud iawn â hynny.”

Cafodd y rhaglen ei sefydlu ym mis Ebrill er mwyn cynorthwyo busnesau nad oedd yn gallu parhau i weithio, neu oedd yn gorfod lleihau eu gweithlu, yn ystod y cyfnod clo.

Roedd gweithwyr ar ffyrlo yn cael 80% o’u cyflogau, gyda Llywodraeth Prydain yn anfon yr arian at gyflogwyr.

Penderfynodd rhai o’r busnesau nad oeddent bellach angen yr arian, gyda rhai cwmnïau, megis Ikea, yn ei dalu yn ôl.

Nid yw HMRC yn gwybod cyflogau faint o weithwyr sydd wedi eu talu yn ôl, gan nad yw’r wybodaeth yn “manylu ar gyflogau unigol.”

“Er mwyn ymdopi ag effaith y pandemig ar swyddi, busnesau a bywoliaethau pobol, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain un o’r rhaglenni cefnogaeth fwyaf hael a chynhwysfawr yn y byd, drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws,” meddai llefarydd ar ran yr HMRC.

“Hyd yn hyn, mae’r Cynllun wedi helpu 1.2 miliwn o gyflogwyr ar draws Prydain i roi 9.6 miliwn o bobol ar ffyrlo, gan ddiogelu eu bywoliaethau.”