Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn ffrwgwd ger gwesty’r Waverley ym Mangor am oddeutu 10.30 neithiwr (nos Sadwrn, Medi 19).

Cafodd dyn arall ei arestio yn y fan a’r lle, yn ôl yr heddlu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a chafodd y dyn driniaeth cyn cael ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw.

Mae’r heddlu wedi dechrau ymchwilio i’w lofruddiaeth, ac mae teulu’r dyn yn cael eu cefnogi.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.