Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi cyhuddo Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, o “danseilio democratiaeth” drwy wrthod ymrwymo i ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban, hyd yn oed pe bai’r SNP yn ennill mwyafrif yn etholiadau nesaf Holyrood ym mis Mai.

Dywedodd Starmer ym mis Ionawr mai “mater i’r Alban” fyddai penderfynu ar refferendwm arall.

Ond mae’n ymddangos iddo gefnu ar y sylwadau hynny heddiw (dydd Sul, Medi 20) wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC.

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, eisoes wedi dweud y dylai’r pendefyniad ynghylch cynnal refferendwm annibyniaeth fod yn nwylo Cymru neu’r Alban pe bai gan y llywodraethau fandad.

‘Gwrthod ateb cwestiwn sylfaenol’

“Drwy wrthod ymrwymo i’r egwyddor pe bai’r SNP yn ennill etholiadau Holyrood fis Mai nesaf y dylai fod gan Lywodraeth yr Alban yr hawl i alw am refferendwm annibyniaeth, mae Keir Starmer yn tanseilio democratiaeth yn llwyr,” meddai Adam Price.

“Nid yn unig mae e wedi cefnu ar ei sylwadau’n ôl ym mis Ionawr mai “mater i’r Alban” yw hyn, ond mae e bellach yn gwrthod ateb cwestiwn sylfaenol am hawliau dinasyddion i ddewis eu dyfodol eu hunain.

“Mae ymateb gochelgar Keir Starmer hefyd yn tanseilio prif weinidog Cymru sydd wedi cefnogi’n gyhoeddus ganiatáu i Gymru a’r Alban gynnal refferendwm annibyniaeth pe bai llywodraeth o blaid annibyniaeth yn ennill mandad yn yr etholiad.

“Yn y pen draw, arweinydd Llafur y Deyrnas Unedig sy’n gyrru agenda bolisi’r blaid.

“Fydd sylwadau llawn bwriad di-ri gan y Blaid Lafur yng Nghymru ddim yn newid y ffaith y bydd grym y blaid bob amser yn Llundain.

“Fydd Llafur fyth yn cyflwyno annibyniaeth i’r Alban na Chymru.”