Mae Matt Hancock yn annog pobol i riportio’u cymdogion os ydyn nhw’n gwrthod hunanynysu – ddyddiau’n unig ar ôl i’r prif weinidog Boris Johnson ddweud nad yw e’n hoffi’r diwylliant “llechwraidd”.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd San Steffan y byddai’n barod i roi gwybod i’r awdurdodau ei hun pe bai’n ymwybodol o achos o dorri’r rheolau, all arwain at ddirwy o £10,000 yn ôl rheolau newydd yn Lloegr.

Ond dywedodd Boris Johnson yr wythnos ddiwethaf y byddai’n well ganddo fe pe bai cymdogion yn siarad â’i gilydd pe bai sefyllfa o’r fath yn codi.

“Dw i erioed wedi bod yn fawr o ffan o’r diwylliant llechwraidd yn bersonol,” meddai, cyn ychwanegu y byddai’n dderbyniol riportio partïon mawr lle mae perygl gwirioneddol i iechyd y cyhoedd.

‘Nifer fach ond pwysig’

Ond mae’n ymddangos nad yw’r ddau gydweithiwr yn cydweld.

Dywedodd Matt Hancock wrth Times Radio y dylid rhoi gwybod i’r awdurdodau am achosion o dorri rheolau.

“Oherwydd os ydych chi’n meddwl am y peth, mae nifer y bobol sy’n cael cais i hunanynysu fel cyfran o’r boblogaeth yn gymharol fach ond mor bwysig,” meddai.

“Dyma bobol sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif neu sydd wedi cael canlyniad positif eu hunain.”

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar y BBC fod hunanynysu “yn gwbl angenrheidiol oherwydd dyna sut rydyn ni am dorri cadwyni’r ymlediad”.

Neges ddryslyd y llywodraeth?

Ond mae Matt Hancock yn wfftio’r awgrym fod yr anghydweld rhyngddo fe a Boris Johnson yn enghraifft arall o negeseuon dryslyd o du’r llywodraeth.

“Wel, rydyn ni’n glir dros ben fod rhaid i bobol ddilyn y rheolau ac os nad ydyn nhw’n gwneud, rydyn ni’n cyflwyno camau gorfodi llawer iawn mwy llym,” meddai.

“O ran hunanynysu, rydyn ni wedi dibynnu ar ddyletswydd ddinesig pobol i wneud y peth iawn.

“Ond mae lleiafrif o bobol nad ydyn nhw’n gwneud hynny.”

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel ei bod hi o blaid riportio pobol nad ydyn nhw’n cadw at y “rheol chwech”.

Gallai pobol gael dirwy o hyd at £3,200 pe na baen nhw’n cadw at y rheol newydd dan do ac yn yr awyr agored yn Lloegr.