Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn mynnu bod yn rhaid adennill cefnogaeth y rhai oedd yn arfer pleidleisio dros y blaid a gwrando arnyn nhw os ydyn nhw am ddod i rym eto.

Fe ddaw wrth iddo annog y prif weinidog Boris Johnson i “fwrw iddi a chwblhau” Brexit.

Dywed ei fod yn fodlon fod y blaid bellach yn mynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth, ond ei fod yn barod i gael ei farnu ar sail ei weithredoedd yn hytrach na’i eiriau.

“Rydyn ni’n ei gwneud hi’n gwbl glir ein bod ni’n arweinwyr newydd ac mae hynny’n golygu bod yn gwbl glir ynghylch cydnabod graddfa’r golled fis Rhagfyr diwethaf,” meddai ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Roedd yn dorcalonnus i’r Blaid Lafur, yn dorcalonnus i’r mudiad Llafur ac i’r miliynau o bobol yr oedd dirfawr angen Llywodraeth Lafur arnyn nhw.

“Felly cydnabod hynny, gwrando ar y rhai nad ydyn nhw bellach yn pleidleisio dros Lafur, a dw i wedi treulio’r chwe mis diwethaf yn gwrando ac yn gofyn am sgyrsiau gyda phobol sydd yn anodd yn hytrach nag yn hawdd, a newid a chanolbwyntio ar y dyfodol.

“Mae hynny’n golygu penderfyniadau anodd fel herio gwrth-Semitiaeth.

“Felly arweinyddiaeth newydd sy’n canolbwyntio ar 2024, ond cydnabod yn llwyr raddfa’r dasg rydyn ni’n ei hwynebu.”

Y gwahaniaeth

Mae’n dweud mai’r gwahaniaeth yn yr arweinyddiaeth newydd yw fod Llafur bellach wedi colli pedwar etholiad.

“Cydnabod fod rhaid i ni wrando ar y rhai oedd yn arfer pleidleisio dros Lafur, nad ydyn nhw bellach yn pleidleisio dros Lafur, neu’r rhai wnaethon nhw fyth bleidleisio dros Lafur,” meddai.

“Ond rhaid i ni ganolbwyntio ar ennill yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2024.”

Mae’n dweud bod arweinyddiaeth yn hollbwysig ar fater gwrth-Semitiaeth.

“Yr hyn dw i wedi ceisio’i wneud fel arweinydd y Blaid Lafur yw ei gwneud hi’n glir iawn yn fy araith dderbyn [wrth ddod yn arweinydd] y bydden ni’n dileu gwrth-Semitiaeth a bwrw ati wedyn i wneud hynny, a sicrhau ein bod ni’n gweithredu yn ogystal â chynnig geiriau.”

Brexit

Yn y cyfamser, mae’n dweud y byddai cwblhau proses Brexit â chytundeb o fudd i’r Deyrnas Unedig.

“Fe wnaeth y prif weinidog addo i ni fod yna gytundeb ‘yn barod i’r ffwrn’ ac mae angen iddo fwrw iddi a gweithredu ar yr addewid,” meddai.

“Os yw e’n methu â gwneud hynny, yna mae e’n derbyn y methiant hwnnw a’r ffaith ei fod e wedi tynnu sylw, yn syml iawn, wrth agor hen glwyfau, cefnu ar gytundebau sydd wedi’u gwneud ac mae hynny’n tynnu sylw.

“Mae sicrhau cytundeb o fudd i’r genedl.

“Dw i’n dweud wrth y prif weinidog, ‘Ewch i gael y cytundeb hwnnw’.”