Fe fydd dathliad dwbwl i Tadej Pogacar dros y dyddiau nesaf wrth iddo gipio coron ras feics y Tour de France heddiw (dydd Sul, Medi 20), ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 22 oed.

Dim ond cwblhau’r cymal olaf – yn ddi-gystadleuaeth – sy’n rhaid iddo ei wneud er mwyn ennill  y teitl, ar ôl i obeithion ei gydwladwr o Slofenia, Primoz Roglic gael eu chwalu yn erbyn y cloc yn La Planche des Belles Filles.

Oni bai bod rhwybeth mawr yn mynd o’i le, Pogacar fydd yr ail enillydd ieuengaf erioed, ac yntau dair blynedd yn hŷn na Henri Cornet, enillydd y ras yn 1904.

Roedd Roglic wedi bod yn gwisgo’r crys melyn, sef crys yr arweinydd, ers 11 o ddiwrnodau pan aeth pethau o’i le wrth ddringo tua’r terfyn.

Roedd ganddo fe fantais o 57 eiliad ar ddechrau’r cymal, ond roedd e wedi ildio bron i ddwy funud i Pogacar, er nad oedd hwnnw’n ymwybodol gan nad oedd e’n gallu clywed ei radio yn sgil y dorf.

Dyma’r tro cyntaf i Pogacar gystadlu yn y Tour de France, a dim ond yr ail ras yn y Grand Tour ar ôl cwblhau’r Vuelta a Espana y llynedd, pan enillodd Roglic.

Collodd e 81 eiliad yn ystod y seithfed cymal, ond fe enillodd e gymal rhif 14 i gadw ei obeithion yn fyw a lleihau mantais Roglic.

“Dw i’n credu ’mod i’n breuddwydio,” meddai Pogacar wrth gael ei gyfweld, cyn cael ei gofleidio gan Roglic oedd wedi gorfod codi ei hun o’r llawr.

Bydd Richie Porte yn gorffen ar y podiwm ar y tro cyntaf erioed, wrth orffen yn drydydd yn dilyn cystadleuaeth gref yn erbyn Miguel Angel Lopez wrth i hwnnw gystadlu am y tro olaf fel arweinydd cyn symud, o bosib, at Ineos.