Rhwydodd Danny Williams ddwywaith wrth i Hwlffordd orffen yn gyfartal 2-2 yn erbyn y Drenewydd yn Uwchgynghrair Cymru neithiwr (nos Sadwrn, Medi 19).

Aeth y Drenewydd ar y blaen ar ôl 34 munud wrth i dafliad i’r cwrt cosbi ddod o hyd i Nick Rushden, a beniodd y bêl i’r rhwyd.

Aeth y Drenewydd ar y blaen eto ar ôl 73 munud, wth i’r capten Kieran Mills Evans ergydio o’r cwrt cosbi ar ôl rheoli’r bêl yn gelfydd.

Dair munud yn ddiweddarach, roedd y sgôr yn gyfartal unwaith eto wrth i’r eilydd Jack Wilson groesi o’r asgell dde i gynnig ail gyfle i Williams.