Mae Gareth Bale yn dweud bod Jose Mourinho yn “berffaith” i Spurs, wrth iddo leisio barn am ei reolwr newydd ar ôl symud o Real Madrid ar fenthyg.

Dywed y Cymro ei fod yn hyderus y gall ei reolwr newydd ennill tlysau, ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio â Mourinho, oedd wedi ceisio ei ddenu i’w glybiau ddwywaith yn y gorffennol – i Real Madriad ac i Manchester United.

Serch hynny, bydd rhaid i Bale aros tan fis nesaf i gael chwarae ar ôl anafu ei benglin.

“Fe wnes i siarad â fe cyn dod draw, yn amlwg, pan oedden ni’n trafod,” meddai Bale wrth BT Sport.

“Mae e wedi siarad â fi am sawl safle y byddai’n hoffi i fi chwarae ynddyn nhw ac yn amlwg, dw i’n hapus i wneud hynny.

“Yn amlwg mae e’n un mawr i ddod i mewn, mae e’n enw mawr, mae e’n enillydd a dw i’n credu ei fod e’n berffaith i Tottenham.

“Rydyn ni i gyd eisiau ennill tlysau ac mae e’n gwybod sut yn well na neb, felly gobeithio mai’r tymor yma fydd y tymor hwnnw.

“Y peth mae pob cefnogwr Tottenham ei eisiau yw tlws, felly byddwn ni’n gwneud ein gorau ym mhob cystadleuaeth i wneud hynny.”

Talu teyrnged i’r cefnogwyr

Ac mae Gareth Bale wedi talu teyrnged i’r cefnogwyr wrth “ddod adref” i Spurs.

“Dw i wedi dweud mewn cyfweliadau blaenorol, pan dw i’n mynd yn ôl i Gymru, rydych chi’n gallu teimlo’r cariad hwnnw, rydych chi’n teimlo’r hapusrwydd hwnnw ac yna, rydych chi’n gallu chwarae eich pêl-droed orau wrth deimlo cariad y cefnogwyr,” meddai.

“Des i’n ôl yma gan wybod y byddwn i’n cael derbyniad da – dw i’n caru’r clwb, ro’n i wrth fy modd yn ystod fy nghyfnod yma ac mae cael dod yn ôl a theimlo’r emosiwn…

“Gobeithio y gallwn ni fwrw iddi y tymor hwn, ceisio ennill tlws neu ddau a cheisio mwynhau fy mhêl-droed a cheisio rhoi rhywbeth i’r cefnogwyr wenu yn ei gylch.

“Mae pwysau o hyd fel pêl-droediwr, mae pob perfformiad yn cael ei ddadansoddi, ei feirniadu ac yn y blaen.

“Dw i’n deall y bydd yna bwysau, disgwyliadau, ond dw i’n teimlo fy mod i’n chwarae fy mhêl-droed orau pan dw i’n hapus a dw i’n teimlo’n hapus iawn yn dychwelyd i Spurs.

“Dw i eisoes yn teimlo’r cariad yn y stadiwm o fod gyda’r staff a’r chwaraewyr, a dw i’n teimlo bod fy mhêl-droed orau’n dod allan pan dw i’n meddwl fel hyn.

“Os felly, dw i ddim yn poeni a dw i eisiau ceisio chwarae a gadael i fy ngallu naturiol gymryd drosodd.”

“Wedi mwynhau” yn Real Madrid

Er ei rwystredigaeth yn y Bernabeu, mae’n dweud iddo fwynhau bod gyda Real Madrid.

“Dw i wedi dweud o’r blaen fy mod i wrth fy modd yn byw yno, mae fy nheulu wedi ymgartrefu, mae fy mhlant i’n hapus a dw i wedi mwynhau bod gyda’r clwb,” meddai.

“Yn amlwg mae yna lanw a thrai ym mhob clwb lle bynnag yr ewch chi.

“Efallai bod yr uchelfannau wedi bod yn uchel dros ben a’r iselfannau wedi bod ychydig yn is, ond dw i wedi mwynhau fy amser yno.

“Fe wnes i fwynhau chwarae i Real Madrid a chyflawni’r hyn wnaethon ni ei gyflawni, a chyflawni’r hyn wnes i ei gyflawni.

“Ond daeth yr amser am bennod nesaf fy ngyrfa.

“Dw i eisiau parhau i ennill tlysau a dw i eisiau gwneud hynny gyda Tottenham.”