Tarodd Dan Douthwaite dri chwech yn y belawd olaf gan y bowliwr rhyngwladol Pat Brown wrth i Forgannwg gwrso nod o 191 yn llwyddiannus i guro Swydd Gaerwrangon o chwe wiced yn eu gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yn New Road.
Ar frig y batiad, tarodd David Lloyd 56 oddi ar 38 o belenni, a Nick Selman 78 oddi ar 53 o belenni, cyn i Douthwaite orfod achub Morgannwg tua’r diwedd, gyda 23 oddi ar chwe phelen.
Cyrhaeddodd Morgannwg y nod gyda dwy belen yn weddill o’r gêm.
Yn gynharach yn yr ornest, tarodd Hamish Rutherford ganred i osod y seiliau i Swydd Gaerwrangon, gyda Jake Libby, cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn sgorio 47.
Batiad y Saeson
Ar ôl i Swydd Gaerwrangon alw’n gywir a phenderfynu batio, tarodd Rutherford bedwar chwech ac 11 pedwar wrth sgorio 100 oddi ar 62 o belenni – ei ail ganred erioed mewn gemau ugain pelawd – ond roedd e allan chwe rhediad yn brin o’i sgôr gorau erioed.
Daeth ei belawd fwyaf pan darodd e 16 oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter wrth i’r Saeson sgorio 43 heb golli wiced yn y cyfnod clatsio.
Cafodd Jack Haynes ei ollwng yn safle’r pwynt ar ddeg, cyn cael ei ddal yn safle’r trydydd dyn gan Douthwaite oddi ar fowlio Timm van der Gugten.
Adeiladodd Rutherford a Libby bartneriaeth o 101 am yr ail wiced, a hynny mewn dim ond naw pelawd, wrth i Rutherford gyrraedd ei hanner canred oddi ar 33 o belenni wrth i Salter ildio 20 oddi ar un belawd, a’r batiwr wedi taro tri chwech a chwe phedwar.
Ar 47, cafodd Libby ei ddal ar ochr y goes gan Kiran Carlson oddi ar 26ain pelen ei fatiad gyda van der Gugten yn cipio wiced arall.
Cyrhaeddodd Rutherford ei ganred wrth dorri’r bêl i’r ffin ar yr ochr agored, cyn cael ei ddal mewn safle tebyg oddi ar y belen ganlynol gan Salter, a’r bowliwr yn cipio’i drydedd wiced.
Morgannwg yn cwrso
Ildiodd Pat Brown 34 yn ei ddwy belawd gyntaf wrth i David Lloyd a Nick Selman frwydro’n galed yn y cyfnod clatsio i gyrraedd 72 heb golli wiced.
Cyrhaeddodd Selman ei hanner canred oddi ar 26 o belenni, gyda dau chwech a saith pedwar.
Roedden nhw’n 98 heb golli wiced erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, gyda Lloyd yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 34 o belenni, ar ôl taro dau chwech a phum pedwar.
Daeth y bartneriaeth i ben yn y drydedd pelawd ar ddeg, pan darodd Lloyd y bêl i ochr y goes a chael ei ddal gan Ross Whiteley oddi ar fowlio Daryl Mitchell.
Ond collodd Morgannwg ddwy wiced mewn dwy belen wedyn, wrth i Whiteley ddal Andrew Balbirnie oddi ar fowlio Brown cyn i Carlson gael ei ddal gan Jack Haynes yn gyrru i’r ochr agored.
Daeth batiad Selman i ben yn y belawd olaf ond un pan gafodd ei ddal gan Rutherford yn gyrru i’r ochr agored oddi ar fowlio Charlie Morris.
Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 166 am bedair, gyda deg pelen yn weddill o’r batiad i gael y 25 rhediad olaf.
Ond daeth awr fawr Douthwaite i serennu, ac fe gyrhaeddodd Morgannwg y nod gydag ochenaid o ryddhad ar ôl colli wicedi ar adegau pwysig yn y batiad.