Mae’r Cymro Cymraeg Owen Morgan o Bontarddulais yn gadael Clwb Criced Morgannwg wrth i’r tymor ddod i ben.

Dydy e ddim wedi cael cynnig cytundeb newydd ar gyfer y tymor nesaf.

Chwaraeodd y chwaraewr amryddawn 26 oed mewn 21 o gemau dosbarth cyntaf, tair gêm 50 pelawd a naw gêm ugain pelawd yn ystod chwe thymor gyda’r clwb.

Daeth ei unig ganred dosbarth cyntaf yng Nghaerwrangon yn 2016, pan ddaeth e’r noswyliwr cyntaf yn hanes y clwb i gyrraedd y garreg filltir honno.

Mewn datganiad, mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi talu teyrnged iddo fe.

“Mae hi bob amser yn drueni pan fo chwaraewr yn gadael y clwb, yn enwedig un mor boblogaidd ac ymroddedig ag Owen.

“Mae pawb yn y clwb yn dymuno’n dda iawn iddo fe ar gyfer y dyfodol.”