Mae Elfyn Evans ar frig Pencampwriaeth Ralio’r Byd ar ôl ennill Rali Twrci.

Roedd gan y Cymro flaenoriaeth o 36 eiliad dros Thierry Neuville o Wlad Belg, a hynny er i Thierry Neuville ennill y tri cymal olaf.

Daw hyn ar ôl i Elfyn Evans ennill Rali Sweden fis Chwefror.

‘Penwythnos anodd’

“Mae wedi bod yn benwythnos anodd,” meddai Elfyn Evans.

“Prynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Medi 19) roedden ni’n meddwl bod hi drosodd, ond dwi’n teimlo ein bod ni wedi gyrru’n dda a llwyddo i aros yng nghanol y ffordd.

“Rwy’n ymwybodol iawn bod angen ychydig o lwc, a dwi byth yn mwynhau dwyn mantais gan eraill yn y ffordd yma – ond dyna natur Rali Twrci.

“Nid dyna’r fuddugoliaeth felysaf ond rydyn ni’n hapus iawn.”

Canlyniadau Rali Twrci (Medi 20)

  1. Elfyn Evans – Toyota
  2. Thierry Neuville – Hyundai
  3. Sebastien Loeb – Hyundia
  4. Kalle Rovanpera – Toyota

Rhestr detholion Pencampwriaeth Ralio’r Byd 

  1. Elfyn Evans – Toyota: 97 pwynt
  2. Sebastien Ogier – Toyota:  79 pwynt
  3. Ott Taenak – Hyundai: 70 pwynt
  4. Kalle Rovanpera – Toyota: 70 pwynt

Dim ond dwy ras sydd ar ôl yn y bencampwriaeth eleni, Rali Italia Sardegna ym mis Hydref a Rali Gwlad Belg ym mis Tachwedd.

Roedd disgwyl i rowndiau Prydeinig pencampwriaeth ralio’r byd ddod i Gymru rhwng Hydref 29 a Tachwedd 1, ond mae’r ras wedi chanslo eleni yn sgil y coronafeirws.