Mae’r Scarlets allan o Gwpan Her Ewrop ar ôl colli o 11-6 yn Toulon neithiwr (nos Sadwrn, Medi 19), ond mae’r prif hyfforddwr Glenn Delaney yn dweud ei fod e’n “eithriadol o falch” o’r tîm.
Cafodd eu gobeithion eu chwalu yn hwyr yn y gêm wrth i Steff Evans fethu â chyrraedd y llinell gais wrth gael ei daclo gan Gabin Villiere bum metr yn brin ar ôl rhedeg o’r llinell hanner, ac fe darodd yr eilydd Tyler Morgan y bêl ymlaen wrth gael ei yrru tua’r llinell o’r lein agos.
Yr hanner cyntaf
Fe wnaeth y Scarlets ymosod o’r gic gyntaf, wrth i’r bachwr Ken Owen droi’r bêl drosodd yn ardal y dacl i gynnig cic at y pyst i Leigh Halfpenny o’r llinell hanner.
Daeth cyfle i Toulon am gais ar ôl 13 munud wrth i’r cefnwr Daniel Ikpefan gael ei daclo’n wych gan Halfpenny ychydig fetrau’n brin o’r llinell gais.
Ddeng munud yn ddiweddarach, cafodd y Ffrancwyr gyfle arall pan gollodd Jake Ball y bêl wrth ymosod, wrth i Sergio Parisse fanteisio a thaflu’r bêl rhwng ei goesau i ddod o hyd i Ikpefan, wrth iddo ddechrau symudiad arweiniodd at Parisse yn croesi.
Ond fe welodd y dyfarnwr fideo bàs ymlaen yn ystod y symudiad.
Dyblodd y Scarlets eu mantais gyda chic gosb wrth i Romain Taofifenua daclo Gareth Davies heb y bêl 30 metr o’r llinell gais.
Methodd Baptiste Serin â chic o 45 metr yn fuan wedyn.
Mantais o 6-0, felly, i’r Scarlets ar yr egwyl.
Ail hanner
Gallai’r Scarlets fod wedi ymestyn eu mantais ymhellach yn gynnar yn yr ail hanner pan gafodd Halfpenny gic at y pyst am bêl oedd wedi cael ei tharo ymlaen yn fwriadol gan Toulon.
Ond manteisiodd y Ffrancwyr ar ei gic aflwyddiannus, ac fe gawson nhw gic at y pyst ar ôl 52 munud, ac un arall ar ôl 69 munud yn fuan ar ôl cais Parisse.
Er i’r Scarlets golli Halfpenny a McNicholl yn hwyr yn y gêm, daeth un cyfle arall wrth i Tyler Morgan hyrddio tua’r llinell, cyn gollwng ei afael ar y bêl.
Ymateb i’r gêm
Ac mae pryderon i Gymru hefyd yn dilyn y gêm, ar ôl i Leigh Halfpenny (cyfergyd) a Johnny McNicholl (ffêr) gael eu hanafu.
“Dw i’n eithriadol o falch o’r ymdrech ond fel criw, roedden ni’n siomedig,” meddai Glenn Delaney.
“Fe wnaethon ni siarad ar ôl y gêm am yr eiliadau allweddol ar y diwedd pan gawson ni gyfle.
“Cawson ni gwpwl ohonyn nhw ac mae’n rhaid i ni eu cymryd nhw.
“Byddwn ni’n onest am y peth, ond alla i ddim gweld bai o gwbl o ran yr ymdrech – roedd hi’n enfawr.”