Mae Clwb Pêl-droed Tottenham Hotspur wedi cadarnhau bod y Cymro Gareth Bale wedi dychwelyd atyn nhw ar fenthyg am dymor.

Daw’r chwaraewr 31 oed yn ôl i Lundain ar ôl saith mlynedd yn Real Madrid.

Ymunodd e â’r clwb yn Sbaen am £85m bryd hynny, ond fe fu’n gyfnod rhwystredig iddo yn y clwb yn ddiweddar ar ôl gorfod eistedd ar y fainc am gyfnodau hir.

Mae’r cefnwr chwith Sergio Reguilon wedi symud gyda Bale o Real Madrid.

Gyrfa gyda Spurs

Chwaraeodd Gareth Bale 203 o weithiau i Spurs rhwng 2007 a 2013.

Roedd ei drosglwyddiad i Real Madrid yn record byd ar y pryd, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn un o chwaraewyr gorau’r byd, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith.

Ar ei orau, roedd e ymhlith y tri chwaraewr gorau yn y byd, y tu ôl i Lionel Messi a Cristiano Ronaldo.

Ond fe fu anghydfod â’i reolwr Zinedine Zidane yn gysgod tros ddiwedd ei gyfnod yn y Bernabeu, ar ôl y feirniadaeth fod yn well ganddo fe chwarae golff na pherfformio ar ei orau ar y cae pêl-droed.

Mae Jose Mourinho, rheolwr Spurs, yn ffan mawr o’r Cymro, ac fe wnaeth e geisio’i arwyddo ddwywaith – yn Real Madrid ac ym Manchester United.

Bydd Gareth Bale yn ychwanegiad da i’r garfan sydd wedi ei chael hi’n anodd sgorio goliau hyd yn hyn.