Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow yn dweud ei bod hi’n edrych ymlaen at wynebu Norwy oddi cartref yng ngêm ragbrofol Pencampwriaeth Ewrop heno (nos Fawrth, Medi 22).
Dydy merched Cymru heb chwarae ers mis Mawrth yn sgil y coronafeirws.
“Mae wedi bod yn amser hir, ond mae’n wych ein bod ni’n ôl yn hyfforddi gyda’n gilydd,” meddai.
“Rydyn ni wedi cael llawer mwy o amser nag arfer i edrych ar gemau a’n gwrthwynebwyr yn fanwl felly mewn ffordd, mae wedi bod yn bositif gan fod y cyfnod yma wedi caniatáu i ni baratoi mewn ffordd ychydig yn wahanol.”
Sophie Ingle – “ein harweinydd, ein capten”
Mae disgwyl i Sophie Ingle, capten Cymru, ennill ei chanfed cap yn erbyn Norwy heno.
“Hi yw ein harweinydd a hi yw ein capten,” meddai Jayne Ludlow.
“Mae Sophie yn rhan o grŵp profiadol o arweinwyr yn ein carfan.
“Mae cymaint mwy o botensial ganddi ac mae ganddi ran enfawr i’w chwarae wrth i ni geisio cael y canlyniadau sydd eu hangen arnom dros y misoedd nesaf. ”
Mae Cymru yn yr ail safle yn y tabl ar hyn o bryd, bedwar pwynt y tu ôl i Norwy gyda phedair gêm yn weddill i’w chwarae.