Bydd penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ohirio cynlluniau i ddechrau rhoi’r hawl i gefnogwyr fynychu digwyddiadau chwaraeon yn Lloegr yn cael effaith ar Gymru.
O ganlyniad i’r penderfyniad, bydd y gêm bêl-droed gyfeillgar rhwng Cymru a Lloegr yn Wembley ar Hydref 8 y tu ôl i ddrysau caëedig.
Roedd bwriad i adael hyd at 1,000 o gefnogwyr i mewn i rai gemau a digwyddiadau fel rhan o arbrawf.
Ond daw’r tro pedol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion.
“Rhaid i ni gydnabod fod lledaeniad y feirws bellach yn effeithio ar ein gallu i ailagor digwyddiadau chwaraeon mawr,” meddai Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Medi 22).
“Ni fyddwn yn gallu gwneud hyn o Hydref 1 ymlaen, rwy’n cydnabod y bydd hyn yn arwain at oblygiadau i’n clybiau chwaraeon sydd yn galon ac enaid ein cymunedau.
“Mae’r Canghellor a’r Ysgrifennydd Diwylliant yn gweithio ar frys i weld beth allwn ei wneud i’w cefnogi.”
Eglurodd y Prif Weinidog y gallai’r rheolau hyn fod yn eu lle am chwe mis pe na bai pethau’n gwella.
Er i ddigwyddiadau celfyddydol a chwaraeon gyda hyd at 100 o bobol gael eu treialu yn yr awyr agored yng Nghymru yn ddiweddar, dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi awgrymu eto eu bod nhw’n paratoi i adael i bobol fynychu digwyddiadau chwaraeon.