Mae nifer o dafarndai ar draws Cymru wedi cael rhybudd neu wedi gorfod cau am dorri rheolau’r coronafeirws.

Yn ôl rheolau Llywodraeth Cymru, mae gan awdurdodau lleol ar draws y wlad  bwerau i gau neu roi hysbysiad i wneud gwelliannau i unrhyw dafarn neu fwyty sy’n torri rheolau’r coronafeirws.

Mae hyn yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol a darparu mesurau hylendid digonol, megis diheintydd dwylo.

Yma, mae golwg360 yn edrych ar y tafarndai sydd wedi cael eu cosbi gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Blaenau Gwent

Mae tair tafarn wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau, sef:

  • Yr Arth, Abertyleri
  • Y Garw, Abertyleri
  • Skarratts, Glynebwy

Caerffili

Mae un bwyty wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau, sef:

  • New Red Chilli restaurant, Y Coed-duon

Caerdydd

Mae tafarn wedi derbyn hysbysiad i gau, sef:

  • Locos Latin Bar, Cathays

Caerfyrddin

Mae saith tafarn neu leoliad trwyddedig wedi derbyn hysbysiad i gau, sef:

  • Clwb Criced a Phêl-droed Drefach
  • Clwb Bowlio Pen-bre a Phorth Tywyn
  • Infinity Bar, Caerfyrddin
  • Y Llew Aur, Caerfyrddin
  • Y Rheilffordd, Rhydaman
  • Clwb Glowyr Rhydaman a’r Cyffiniau

Sir Ddinbych

Collodd Y Bodunig yn Niserth ei thrwydded ym mis Awst am weini cwsmeriaid yn ystod y cloi mawr.

Fodd bynnag, mae’r dafarn yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Sir y Fflint

Mae tafarn wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau yn Sir y Fflint, sef:

  • The Blossoms Public House

Gwynedd

Mae dwy dafarn wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau, sef:

  • A Star Barbers, Pwllheli
  • Market Hall, Caernarfon

Castell-nedd a Phort Talbot

Mae chwe thafarn wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau, sef:

  • The Bell Inn, Taibach
  • Treats, Castell-nedd
  • Ten 21, Castell-nedd
  • Ambassador and Presidents Bar, Castell-nedd
  • Eden Wine Bar and Club, Castell-nedd
  • Arch Bar and Nightclub, Castell-nedd

Casnewydd

Mae dwy dafarn wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau, sef:

  • Breeze Bar
  • Crazy Diamond

Powys

Mae un caffi wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau ym Mhowys, sef:

  • Jack’s cafe, Y Drenewydd

Rhondda Cynon Taf

Mae dwy dafarn wedi derbyn hysbysiad i gau, sef:

  • Players Sports Bar, Pontypridd
  • DeWinton, Tonypandy

Ac mae un wedi cael hysbysiad i wneud gwelliannau, sef:

  • Patriot Bar, Pontypridd

Torfaen

Mae tafarn yn Nhorfaen wedi colli ei thrwydded am weini alcohol a bwyd sawl gwaith yn ystod y cloi mawr, sef:

  • Castell-y-Bwch, Henllys

Wrecsam

Mae tair tafarn yn Wrecsam wedi derbyn hysbysiad i wneud gwelliannau, sef:

  • Chequers
  • North and South Wales Bank (Wetherspoons)
  • Penny Black