Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, wedi ennill gwobr Marc Ansawdd Tryloywder am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi gan CoPaCC, sefydliad sydd yn asesu llywodraethiant yr heddlu, am fod yn agored a thryloyw.

Caiff y wobr ei rhoi am sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ac yn hawdd i fynd ati ar-lein, fel y gall y cyhoedd ddarganfod beth mae’r Comisiynydd ei wneud o ddydd i ddydd.

Yn ystod ei ymgyrch i gael ei ethol yn Gomisiynodd, galwodd Arfon Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, am fwy o weithredu agored a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus.

“Balch iawn”

Dywedodd Arfon Jones wrth golwg360 ei fod yn “falch iawn o ennill y wobr, gan ei bod yn bwysig bod yn dryloyw yn ein gwaith”.

Mewn datganiad, dywedodd y “dylai pobol mewn swyddi cyhoeddus gyhoeddi mwy na’r wybodaeth y mae’n gyfreithiol ofynnol iddyn nhw ei datgelu”.

“Dylai gweithredu agored fod yn norm ac nid yn eithriad a gobeithio y bydd sefydliadau eraill yn ein dilyn,” meddai.

“Rydyn ni’n cael ei hariannu gan drethdalwyr ac mae ganddyn nhw hawl diamod i wybod beth rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n gwario eu harian.”

Diolchodd Arfon Jones i staff ei swyddfa gan ddweud eu bod nhw wedi “gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod wedi derbyn y marc ansawdd hwn”.

“Rwy’n hynod ddiolchgar iddyn nhw,” meddai.

Pwysigrwydd tryloywder

Rhannodd Meinir Mai Jones, y Swyddog Gweithredol, yr un balchder gan ddweud mai’r “Marc Ansawdd Tryloywder yw’r safon aur o ran gweithredu’n agored a thryloyw, felly rydym i gyd wrth ein boddau ac yn falch o’i dderbyn”.

“Mae’r Comisiynydd yn berson etholedig ac mae’n gwendu popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y cyhoedd yng ngogledd Cymru yn ymwybodol o’r gwaith y mae’n ei wneud,” meddai.

Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan Grant Thornton, prif ddarparwr sicrwydd yr heddlu, a dywedodd Paul Grady, Pennaeth yr Heddlu, ar ran Grant Thornton fod “tryloywder yn rhan hanfodol o’r broses ddemocrataidd”.

“Er mwyn i’r cyhoedd allu mesur pa mor llwyddiannus yw eu Comisiynydd Heddlu a Throsedd wrth gyflawni eu mandad etholiadol, mae angen iddyn nhw allu cael mynediad rhwydd at wybodaeth, ac i’r wybodaeth yna fod yn hawdd ei deall ac yn addas at y diben,” meddai.