Mae Prydain wedi cyrraedd “lle peryglus” yn ymlediad y pandemig coronafeirws, yn ôl Boris Johnson, prif weinidog Prydain.
Ddoe (dydd Llun, Medi 21), rhybuddiodd Syr Patrick Vallance, prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r Athro Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Lloegr, y gallai 50,000 o bobol gael eu heintio â’r coronafeirws yn ddyddiol erbyn canol Hydref os nad oes camau i reoli’r cynnydd diweddar mewn achosion.
Daw’r newyddion wrth i Brydain symud i lefel rhybudd 4.
“Dyma’r amser i weithredu,” meddai Boris Johnson.
“Drwy leihau nifer yr achosion dyddiol newydd. gallwn achub bywydau, amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd a gwarchod yr economi.”
Mesurau newydd i Loegr
Mae Llywodraeth Prydain yn annog gweithwyr sydd yn gallu gweithio o gartref i wneud hynny, gan bwysleisio y dylai gweithwyr sydd yn gorfod mynd i weithleoedd penodol barhau i wneud hynny.
Bydd yn orfodol i dafarndai, bwytai a bariau gau am 10yh, a dim ond gweini wrth fyrddau fydd yn cael ei ganiatáu.
Bydd unrhyw fusnes sydd yn torri’r rheolau gweini wrth fyrddau yn wynebu dirwyon.
Cyhoeddodd Boris Johnson y bydd rhaid gwisgo masg mewn rhagor o sefyllfaoedd yn Lloegr – gweithwyr yn y sector manwerthu a’r sector lletygarwch, a theithwyr mewn tacsis.
Ni fydd gan fwy na chwe pherson yr hawl i ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm dan do.
Dim ond 15 o bobol fydd yn cael mynychu priodasau a derbyniadau priodas, tra bod 30 o bobol yn parhau i gael mynychu angladdau ar hyn o bryd.
Yn olaf, mae cynlluniau i ganiatáu i’r cyhoedd fynychu gemau a digwyddiadau chwaraeon, a mynychu canolfannau cynadledda wedi eu gohirio.
Gallai’r rheolau hyn fod yn eu lle am chwe mis os nad yw pethau’n gwella.
Cynyddu dirwyon a gorfodaeth
Rhybuddiodd Boris Johnson fod yn rhaid bod yn wyliadwrus.
Dywedodd mai dim ond trwy ddilyn y rheolau y bydd posib rheoli’r feirws, a chyfeiriodd at bobol sydd yn torri’r rheolau yn ddi-gywilydd.
Bydd rhagor o ddirwyon yn cael eu rhoi, gyda dirwy o £10,000 yn cael ei gosod i fusnesau sydd yn methu â dilyn y rheolau.
Y ddirwy am beidio â gwisgo masg, neu am gyfarfod gyda mwy na chwe pherson, fydd £200.
“Os nad yw’r mesurau hyn yn gweithio, rydym yn parhau â’r hawl i ddefnyddio ein pwerau i osod cyfyngiadau llymach,” meddai.
Sefyllfa Cymru
Yng Nghymru, mae cyfnodau clo lleol mewn grym mewn chwe sir – Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.
Erbyn hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw llygad ar siroedd eraill lle mae’r feirws ar gynnydd – Caerdydd, Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Ynys Môn, Sir Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.