Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi croesawu sylwadau Michael Gove, Gweinidog Cabinet Llywodraeth Prydain, yn annog pobol i weithio o gartref.

Dywedodd Michael Gove y dylai pobol weithio o gartref nawr os ydyn nhw’n gallu er mwyn “atal” cymysgu cymdeithasol cymaint â phosib.

“Os gall pobol weithio o gartref, yna mi ddylen nhw,” meddai Michael Gove wrth BBC Breakfast.

“Ond rwyf yn pwysleisio ei bod yn bwysig iawn i bobol sydd yn gorfod mynd i weithle penodol barhau i fynd yno.”

Ychwanegodd nad yw’n achos o “ailymweld â dyddiau cynnar ein hymateb i’r feirws” gan fod “gweithleoedd yn saffach,” ond mai un o’r “peryglon sy’n ein wynebu yw bod cyswllt cymdeithasol cyffredinol yn cyfrannu at ledaeniad y feirws.

“Y mwyaf y gallwn atal ar hyn o bryd, y gorau i bawb ac i iechyd cyhoeddus,” meddai Michael Gove.

Vaughan Gething yn croesawu’r sylwadau

Trwy gydol y cyfnod, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gynghori pobol i weithio o gartref.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobol i weithio o gartref os yw’n bosib,” meddai Vaughan Gething mewn neges ar Twitter.

“Newid i’w groesawu gan Lywodraeth Prydain, sydd yn cyd-fynd â’n safbwynt ni.”