Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori pobol i barhau i weithio o gartref, tra bod disgwyl i Lywodraeth Prydain ofyn i weithwyr ddychwelyd i’r gwaith.

“Yng Nghymru, rydym yn parhau i gynghori pobol i weithio o gartref lle mae hynny yn bosib,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod sefyllfaoedd yn bod lle mae angen i gyflogwyr ofyn i staff ddychwelyd i swyddfa, neu lle mae gweithwyr yn teimlo bod gweithio o gartref yn amharu ar eu lles.

“Mae dyletswydd ar gyflogwyr i gymryd mesurau rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws, fydd yn cynnwys sicrhau nad yw staff yn dychwelyd heb fod rheswm busnes clir.”

Nicola Sturgeon ddim am ruthro pobol i’r gweithle

Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi dweud bod hi ddim am “dderbyn” sefyllfa lle mae pobol yn cael eu gorfodi i fynd i’r gweithle.

Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol coronafeirws Llywodraeth yr Alban, dywedodd y byddai ailagor swyddfeydd yn rhy gynnar yn achosi risg o ledaenu’r feirws.

“Yn yr Alban, nid wyf am dderbyn naratif sy’n gwthio am ddychwelyd i’r gwaith cyn i ni, fel gwlad, wneud penderfyniad sy’n saff,” meddai.