Mae Llys y Goron Lerpwl wedi clywed sut y bu i seicolegydd ladd ei fam gyda morthwyl, cyn cymryd £25,000 o’i chyfrif banc i brynu car Jaguar.

Mae Robert Child, 37, yn cyfaddef llofruddio ei fam a ddarganfuwyd yn farw yn ei chartref yn Lerpwl fis Mawrth.

Clywodd y Llys fod gan Robert Child, a oedd yn gweithio ym maes seicoleg chwaraeon ym Mhrifysgol Lerpwl, £1.01 yn ei gyfrif banc pan laddodd ei fam.

Ar ôl i’w chymdogion glywed sŵn cyfarth a methu cael gafael arni, galwodd yr Heddlu i gartref Janice Child fis Mawrth.

Daethpwyd o hyd i’w chorff o dan y grisiau gyda 31 o glwyfau gwahanol, gan gynnwys rhai i’w phenglog y credir iddynt gael eu hachosi gan forthwyl.

Pan aeth yr Heddlu i dŷ Robert Child i roi gwybod eu bod nhw wedi canfod corff ei fam, dywedodd ei bartner wrthynt ei fod yn prynu car newydd.

Dychwelodd mewn Jaguar glas ac roedd yn ymddangos mewn sioc a gofid wedi iddo glywed y newyddion.

Ar ôl iddo bledio’n euog i ddynladdiad o’r blaen, plediodd Robert Child yn euog i lofruddiaeth ei fam ar ddiwrnod cyntaf yr achos llys.

Disgwylir i’r achos llys barhau tan yr wythnos nesaf.