Cafodd sengl newydd Gai Toms, ‘Pobol Dda y Tir’, ei recordio yn ystod y cyfnod clo, a’i rhyddhau yn ddiweddar.

Bydd y gân yn ymddangos ar ei albwm nesaf y canwr a’r gitarydd poblogaidd, sef Y Filltir Gron.

Dyma gyfle i ddarganfod mwy am y sengl, a’r hyn sydd wedi ysbrydoli Gai wrth gyfansoddi yn ystod y cyfnod clo… 

Mae’n teimlo fel bod yna naws eithaf cyntefig a gobeithiol i ‘Pobol Dda y Tir’… cân am be ydi hi?

Dwi ddim isio esbonio gormod ar y gân, mae rhyddid i wrandawyr i brosesu’r profiad drostyn nhw eu hunain. Os am ddehongli, mae’r geiriau ar y fideo…

Oes yna gerddorion eraill ar y gân efo ti?

Neb, mond y fi… wedi ei recordio dros y cyfnod clo. Dwi’n hoff o arbrofi yn y stiwdio, ac roedd y cyfnod clo yn gyfle perffaith i hynny. Eto, ‘sdim byd cymhleth am y recordiad chwaith… wnes i drio capio faint o offerynnau i’w recordio er mwyn gadael i’r gân ‘anadlu’, a rhoi pwyslais ar y geiriau.

Wyt ti’n meddwl bod y gân hon yn debyg i unrhyw beth rwyt ti wedi eu cyfansoddi yn y gorffennol?

Heblaw am ambell drac Mim Twm Llai efo Phil Jones (Gwibdaith Hen Frân), dwi ‘rioed wedi recordio efo ukelele o’r blaen. Felly, mewn cyd-destun offerynnol, na. Roedd Anweledig a Mim Twm Llai yn eithaf eclectig o safbwynt arddull cerddorol, felly ‘sdim byd newydd yma… dwi dal i fod yn eithaf eclectig am wn i, dwi’n hoff o bob math o gerddoriaeth.

Sut ymateb wyt ti wedi’i gael i’r sengl hyd yn hyn? 

Gwych, ‘Trac yr Wythnos’ ar Radio Cymru a negeseuon yn dweud ei bod hi’n gân addas iawn i’r cyfnod sydd ohoni. Lot yn licio’r fideo hefyd! Fel artist, mae’n bwysig mynegi yn y foment, dyna ydi un o rinweddau artist am wn i, ymateb yn greadigol i sefyllfaoedd, archwilio dulliau amgen i gyfleu emosiwn neu rannu neges.

Dwi’n deall mai ti sydd wedi gwneud y gwaith celf ar gyfer y fideo, sut brofiad oedd hyn?  

Grêt! Dwi hefyd yn ymarferydd creadigol (creuHAU), ac wedi gweithio lot efo ysgolion fel cynllun Ysgolion Arweiniol Creadigol. Mae hyn wedi fy helpu ail-ddarganfod fy ochr celf weledol. Mae iPad newydd yn help hefyd! Wnes i fuddsoddi mewn iPad newydd ar gyfer gwaith yn 2020… ond, ches i’m ei ddefnyddio, daeth y clo mawr!! Felly, waeth i mi arbrofi ar gyfer gwaith fy hun ddim.

Wyt ti wedi bod yn brysur yn cyfansoddi yn ystod y cyfnod clo?

Do, prysur iawn. Collais fy Mam ym mis Ebrill, ar ddechrau’r clo mawr. Dwi dal i brosesu’r ergyd, yn ogystal â’r cyfnod rhyfedd yma ‘da ni’n byw ynddo. Mae’r awen i weld yn llifo mewn adegau fel hyn.

Beth sydd wedi dy ysbrydoli yn ystod y misoedd diwethaf?

Lot o bethau… colli Mam, teulu, atgofion, yr ansicrwydd,… ond hefyd y distawrwydd ar ddechrau’r clo. Roedd y tywydd yn braf yn doedd? Aethom am ambell dro fel teulu. Cyfle i ail-ddarganfod lleoliadau chwarae fy mhlentyndod o amgylch Tanygrisiau, yn ogystal â dod ar draws cilfachau coll. Roedd yr amser a’r llonyddwch yn gyfle i werthfawrogi’r pethau bychain, cyfle sy’n brin iawn yn y byd sydd ohoni. Mae rhoi amser i’r pethau bychain yma yn bwysig iawn i les rywun. Felly, mewn ffordd od, roedd y cyfnod braf ar ddechrau’r cyfnod clo yn berffaith i enaid creadigol, ac yn help efo’r sioc uniongyrchol o golli Mam hefyd.

Wyt ti wedi gweld eisiau perfformio mewn gigs yr haf hwn, yn enwedig ar ôl holl fwrlwm taith y Banditos y llynedd?

I fod yn hollol onest, wedi blwyddyn brysur iawn llynedd efo albwm Orig a’r Banditos, dwi wedi mwynhau’r haf i ffwrdd! Dwi wedi gigio bron bob haf ers dyddiau Anweledig… ac wedi mwynhau. Ond tro ‘ma, roedd colli Mam ynghanol pandemig yn neges glir i mi i roi fy holl egni creadigol i brosiect newydd.

Y Filltir Gron fydd enw’r albwm newydd… ai chwarae ar y dywediad ‘y filltir sgwâr’ sydd yma? Oes arwyddocâd i’w theitl?

Mae’r albwm dal yn rhyw fath o ‘Frankestein’ ar y funud, felly ddim isio datgelu gormod i chi. Mae’r teitl Y Filltir Gron wedi bod efo fi ers blynyddoedd bellach, a ‘rioed wedi gwneud dim efo fo, tan eleni. Mae gen i ffeil ‘Syniadau’ ar y cyfrifiadur yn llawn syniadau am ganeuon, cerddi, ffilmiau, dramâu a chelf. Mae rhai yn lwcus ac yn darganfod bywyd eu hunain, fel Y Filltir Gron. Mae’r Cymry efo rhyw fath o obsesiwn efo ‘lle da chi’n dod’ tydi? Ac yn aml mae’r cyfryngau Cymreig yn cysylltu fi, a ‘nghaneuon, efo’r ardal… sy’n ddealladwy, ond y gwir amdani yw – dim ond llond llaw o ganeuon am ‘Stiniog sydd gennyf, mae’r gweddill am y byd a’i bethau. Rhai yn athronyddol, rhai yn absẃrd, rhai yn wleidyddol, ‘sneb i weld efo diddordeb yn rheini! Pam dwch?! Mae pobl yn licio rhoi label arnoch ‘tydi? e.e. “dyn ei filltir sgwâr”… efallai bod Y Filltir Gron yn troi hynny ar ei ben? Yn ogystal, mae ‘Stiniog ar ben y byd, rydan ni’n gweld bob man mewn 360º o ben y Moelwyn!

A’r cwestiwn olaf… pryd fydd yr albwm newydd allan? 

Pan fydd o’n barod!

FIDEO FAN YMA:

Mae’r gân, ‘Pobol Dda y Tir’, allan nawr, ac mae modd gweld y fideo ar sianel Recordiau Sbensh ar AM neu’r wefan www.gaitoms.com