Mae mwy nag £1 miliwn bellach wedi’i dalu gan y Cynllun Iawndal Windrush – ond nid yw’r mwyafrif helaeth o hawlwyr wedi cael taliad o hyd.

Mae’r ffigurau swyddogol diweddaraf yn dangos bod cyfanswm o £1,053,223.17 wedi’i dalu mewn ymateb i 143 o hawliadau.

Fodd bynnag, mae cyfanswm o 1,480 o geisiadau wedi’u gwneud gan ddioddefwyr Windrush ers lansio’r cynllun ym mis Ebrill y llynedd.

Mae nifer yr hawliadau a dderbyniwyd wedi gostwng bob chwarter ers lansiad y cynllun, gydag 88 wedi’u cyflwyno ym mis Gorffennaf 2020.

Ers cyhoeddi’r set flaenorol o ffigurau y mis diwethaf, gwnaed pum hawliad arall ar ran dioddefwyr sydd eisoes wedi marw, gan fynd â’r cyfanswm i 65.

Mae ASau wedi rhybuddio o’r blaen fod perygl y bydd pobl yn marw cyn iddynt gael yr iawndal sy’n ddyledus oni bai bod y Llywodraeth yn gwella ei hymdrechion.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wedi dweud bod y cynllun yn “gymhleth” a’i bod am weld y cynllun yn cael ei “gyflymu”.

Sefydlwyd y cynllun ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud wrth gannoedd ar filoedd o bobl o wledydd Caribïaidd eu bod ym Mhrydain yn anghyfreithlon. Mae cwynion wedi bod am weithrediad araf y cynllun ers peth amser.

Cawsant eu hannog i ddod i Brydain i helpu i lenwi prinder llafur ar ôl yr Ail Ryfel Byd, rhwng 1948 a 1971.

Cafodd y grŵp ei labelu’n ‘Genhedlaeth Windrush’ ar ôl i rai deithio ar y llong MV Empire Windrush, a ddociodd yn Tilbury, Essex, ar 22 Mehefin 1948.

Llywodraeth wedi ceisio gweld ffilm o flaen llaw

Sitting in Limbo

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd cyfarwyddwr drama am sgandal Windrush ar y BBC, Sitting In Limbo, fod y Swyddfa Gartref wedi ceisio gweld y rhaglen cyn iddi ymddangos ar y teledu.

Dywedodd Stella Corradi yn ystod trafodaeth banel yng Ngŵyl Deledu Caeredin fod gwneud y rhaglen yn “agoriad llygad go iawn” i’r effaith y gall drama ei chael ar wleidyddiaeth.

Ysgrifennwyd y ddrama gan Stephen S Thompson ac mae’n seiliedig ar stori wir ei frawd Anthony Bryan yn cael trafferthion i gael ei dderbyn fel dinesydd Prydeinig.

Dywedodd Corradi fod y Swyddfa Gartref “wedi ceisio gweld y ffilm cyn iddi gael ei darlledu”.

“Roedd yn agoriad llygad go iawn i weld yr effaith y gall drama ei chael a sut y gall gyfrannu at y sgwrs [genedlaethol],” meddai.