Mae’r corff gwarchod swyddogol ar gyfer hawliau dynol yn lansio camau cyfreithiol i adolygu polisi ‘awyrgylch gelyniaethus’ y Swyddfa Gartref wnaeth arwain at sgandal Windrush.
Cafodd y strategaeth ‘awyrgylch gelyniaethus’ ei dyfeisio pan oedd Theresa May yn Ysgrifennydd Cartref, gan barhau o dan ei olynydd, Amber Rudd, gyda’r nod o atal mewnfudwyr anghyfreithlon.
Yn sgil y polisi, fe gollodd miloedd o fewnfudwyr o wledydd y Gymanwlad, y “genhedlaeth Windrush”, ddaeth i Brydain yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, eu hawliau a’u swyddi. Mewn rhai achosion, cafodd pobl halltudio i wledydd oedd yn estron iddynt.
Bu’n rhaid i Amber Rudd ymddiswyddo fis Ebrill 2018 wrth i’r sgandal ddod i’r wyneb ac ar ôl iddi gyfaddef camarwain Aelodau Seneddol.
Mae adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dilyn adolygiad “dysgu gwersi” Wendy Williams, gyhoeddwyd fis Mawrth, wnaeth ddarganfod fod y Swyddfa Gartref wedi dangos “anwybodaeth” wrth ddelio â materion hil.
“Mae’r sgandal Windrush a’r awyrgylch gelyniaethus wedi bwrw cysgod dros y Deyrnas Unedig a’i moesau,” meddai Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac.
“Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i benderfynu beth sy’n rhaid newid fel bod y cyfnod cywilyddus hwn o ein hanes ddim yn cael ei ail-adrodd.”
Dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y bydd ei asesiad, o dan adran 31 y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, yn cael ei gwblhau erbyn Medi 2020.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud fod yr Ysgrifennydd Cartref presennol, Priti Patel, yn benderfynol o wneud popeth yn ei phŵer i “wneud yn iawn” am yr hyn ddigwyddodd i’r genhedlaeth Windrush.