Gostyngodd economi’r Deyrnas Unedig 20.4% ym mis Ebrill yn sgil effaith y gwarchae, y gwymp fisol fwyaf ar gofnod.

Cafodd manylion y gwymp eu hamlinellu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r gwymp dair gwaith yn fwy na’r dirywiad a welwyd drwy gydol holl dirwasgiad economaidd 2008 a 2009.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ffigyrau am y tri mis o Chwefror i Ebrill hefyd, gan ddangos cwymp o 10.4%.

“Fis Ebrill, roedd yr economi 25% yn llai nag ym mis Chwefror,” meddai’r dirprwy ystadegydd cenedlaethol dros ystadegau economaidd Jonathan Athow wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Cafodd pob ardal yr economi eu heffeithio, gyda thafarndai, addysg, iechyd a gwerthiant ceir yn cyfrannu fwyaf at y gwymp hanesyddol.

“Mae masnach y Deyrnas Unedig gyda gweddill y byd hefyd wedi cael ei effeithio’n ddrwg gan y pandemig, gyda chwymp mawr mewn mewnforio ac allforio ceir, tanwydd, celf a dillad.”

Roedd economi’r Deyrnas Unedig eisoes yn crebachu cyn fis Ebrill.

Crebachodd 2% yn nhri mis cyntaf 2020, gydag ychydig ddyddiau o effaith y coronafeirws yn cael effaith.