Roedd pedair gwobr i raglenni a chyflwynwyr o Gymru yng ngwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd neithiwr (nos Iau, Mehefin).
Aeth un o brif wobrau’r noson i Tudur Owen, wrth iddo gael ei enwi’n Gyflwynydd Radio y Flwyddyn am ei sioe ar Radio Cymru, sy’n cael ei darlledu bob prynhawn dydd Gwener a phob bore Sadwrn.
Prosiect Pum Mil, cynhyrchiad Boom Cymru sydd wedi’i chyflwyno gan Emma Walford a Trystan Ellis-Morris, gipiodd y wobr yn y categori Adloniant.
Mae’r gyfres yn chwilio am brosiectau cymunedol i dderbyn £5,000 gyda’r cyflwynwyr yn mynd ati, o fewn y terfynau ariannol, i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau – o drawsnewid ystafelloedd newid clwb pêl-droed i greu gardd synhwyrau.
Rhaglen am lwyddiant y seiclwr Geraint Thomas o Gaerdydd wrth ennill y Tour de France gipiodd y wobr yn y categori Chwaraeon Radio.
Adran Chwaraeon BBC Cymru greodd Super G: How Geraint Won the Yellow Jersey, rhaglen ddogfen sy’n mynd y tu ôl i’r llenni i ddarganfod mwy am y fuddugoliaeth hanesyddol ym Mharis yn 2018, y tro cyntaf i seiclwr o Gymru ennill y ras.
Ymhlith y cyfranwyr mae ei hyfforddwr Dave Brailsford a’i hyfforddwr seiclo cyntaf ym Maindy Flyers, yn ogystal â chefnogwyr a’r dyn ei hun sy’n hel atgofion am yr haf bythgofiadwy.
Rhaglen yn olrhain hanner canrif gystadleuaeth Cân i Gymru yw’r rhaglen Cân i Gymru: Dathlu’r 50 gan Avanti, oedd wedi cipio’r wobr yn y categori Adloniant Ffeithiol.
Roedd y gystadleuaeth flynyddol yn dathlu’r hanner cant y llynedd, ac mae’r rhaglen yn adrodd straeon cyfarwydd a newydd am y gystadleuaeth a rhai o’r enillwyr.
Yr ŵyl
Roedd yr ŵyl flynyddol, sy’n symud o amgylch y gwledydd Celtaidd, i fod i gael ei chynnal yn Quimper yn Llydaw eleni, a’i nod yw dathlu darlledu, ffilmiau a rhagoriaeth y gwledydd Celtaidd.
Er y cyfyngiadau o amgylch y byd ar hyn o bryd, cafodd y seremoni arbennig ei chynnal yn fyw tros Facebook Live o Glasgow dan ofal y trefnwyr a’r prif gyflwynydd Sanjeev Kohli.
Mae rhestr lawn o’r enillwyr yma.