Dylai cronfa arbennig gael eu sefydlu er mwyn helpu’r rhai a gafodd eu heffeithio gan sgandal Windrush, yn ôl Aelodau Seneddol.
Pryder y Pwyllgor Materion Cartref yw bod yr unigolion yma yn wynebu problemau ariannol a chyfreithiol a allai arwain at “amddifadrwydd”.
Yn ogystal maen nhw’n gofidio y gallai “sawl mis” basio, tan fod pobol a gafodd eu heffeithio yn derbyn iawndaliadau gan y Llywodraeth ar y mater.
Felly, oherwydd “difrifoldeb y mater”, mae’r pwyllgor yn galw am sefydlu “cronfa galedi” ar unwaith, i helpu aelodau cenhedlaeth Windrush sy’n wynebu caledi ariannol.
“Ymyrryd”
“Mae rhai o bobol cenhedlaeth Windrush yn wynebu amddifadrwydd,” meddai’r Aelod Seneddol, Yvette Cooper, Cadeirydd y pwyllgor.
“Mae pobol yn gorfod delio â chostau cyfreithiol, ac yn wynebu beilïod oherwydd dyledion sydd wedi casglu pan oedd yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i’w gwaith.
“Rhaid i’r Llywodraeth fynd ati ar frys i ymyrryd.”
Windrush?
Cenhedlaeth Windrush yw’r enw a rhoddir i’r bobol a gyrhaeddodd wledydd Prydain o’r Caribî, ar gwch o’r enw hwnnw yn 1948.
Yn ddinasyddion o’r Gymanwlad, roedd ganddyn nhw’r hawl i aros yn y Deyrnas Unedig.
Ond, bellach mae wedi dod i’r amlwg bod rhai o’r unigolion yma wedi cael eu hanfon o’r wlad, ac wedi cael eu herio heb reswm gan y Llywodraeth.