Rwy’n teimlo braidd yn isel.

Oherwydd dyma fi, wedi dychwelyd i wynt a glaw Cymru fach, ar ôl dianc am wyliau i ogoniant un o ynysoedd môr y Canoldir.

Tra’n gorwedd ar y traeth, mwynhau’r bwyd – ac yfed nifer helaeth o goctels – fe lwyddais i anghofio am sefyllfa druenus ein gwlad: y pla, y cloi mawr, yr argyfwng economaidd – a siambls y byd addysg.

Ond – rhaid oedd dod adref.

‘Good afternoon!’ meddais, efo gwên, wrth y dyn pasborts ym Maes Awyr Bryste.