Mae’r ddeuawd yn ôl gydag albwm newydd sy’n llawn geiriau doniol a chrafog, a cherddoriaeth amrywiol ac arbrofol…

Ers ffurfio yn 1982, mae’r band roc arbrofol Datblygu wedi creu rhai o’r caneuon mwya’ angerddol, doniol a rhyfeddol sydd i’w cael yn yr iaith Gymraeg.

A thros y degawdau, maen nhw wedi cael eu canmol gan genedlaethau o gerddorion.

Mae’r Super Furries yn ffans – fe wnaethon nhw recordio fersiwn o ‘Y Teimlad’ gan Datblygu ar gyfer eu halbwm wych Mwng.

Ac wedi i bum mlynedd fynd heibio ers eu halbwm ddiwethaf, Porwr Trallod, mae Datblygu yn ôl gyda chasgliad newydd.

Mae Cwm Gwagle yn albwm llawn amrywiaeth sy’n cychwyn gyda chân sy’n swnio fel emyn… wel, o ran y gerddoriaeth a’r dôn, mae yn swnio fel emyn – mater arall yw’r geiriau!

Hefyd ar yr albwm newydd mae caneuon amrwd pynci a rhai electronig gyda bîts difyr.

Canu am fywyd yn ei holl ogoniant trychinebus fu hanes Datblygu erioed, a dyna sydd ar Cwm Gwagle.

“Maen rhaid ti fyw dy fywyd cyn cael rhywbeth i ysgrifennu amdano,” meddai David R Edwards, prif leisydd Datblygu.

“Tydyn ni ddim yn un o’r grŵps yna sy’n gorfod cynhyrchu albwm bob rhyw hyn a hyn. Rydyn ni’n gwneud un pan ry’n ni’n teimlo fel gwneud e’.”

Ac mae hanner arall Datblygu, Pat Morgan, yn ymhelaethu ar pam bod Datblygu wedi mynd ati i recordio’r casgliad newydd.

“Roedd digon o lyrics gyda David, ac roeddwn i wedi paratoi cwpwl o bethau,” meddai.

“Ond unwaith roedd yr egni gyda ni i’w wneud e’, a’r stiwdio yn barod… mae popeth yn dod at ei gilydd.”

Ac mae Datblygu wrth eu boddau bod Cwmni Recordiau Ankst yn cyhoeddi Cwm Gwagle ar record feinyl.

“Does dim cyfrifiadur gyda fi,” eglura David R Edwards, “a dw i’n licio cael rhywbeth yn fy llaw wrth i fi brynu record gan rywun, ac edrych ar y clawr yn hytrach nag ar sgrîn computer.”

Ac mae Pat Morgan yn hoff o fendithion y feinyl hefyd.

“Rwyt ti’n gallu gwerthfawrogi’r gwaith celf ac edrych yn fwy manwl ar bethau, pan mae e’ ar feinyl.”

Yn y llun ar glawr Cwm Gwagle, mae Datblygu i’w gweld yn perfformio ar lwyfan ym Mhrestatyn, y dref lan-y-môr yn Sir Ddinbych.

Y llun sydd ar glawr yr albym newydd, o Datblygu ym Mhrestatyn – Llun gan Agata Urbaniak

Yn 2016 roedd y ddeuawd wedi eu dewis i chwarae ar y prif lwyfan o flaen miloedd o bobol yng ngŵyl All Tomorrow’s Parties ym Mharc Gwyliau Pontins Prestatyn.

Fe gafodd yr ŵyl ei churadu gan y digfrifwr Stewart Lee, ac roedd Datblygu yn rhannu’r llwyfan gyda’r Sleaford Mods a neb llai na The Fall.

“Wnes i ddewis y llun yna [ar gyfer y clawr] achos fod e’n dangos y ddau ohonom ni gyda’n gilydd ac yn rhoi popeth mewn iddo fe. David yn enwedig,” eglura Pat Morgan.

Llun gan David R Edwards sydd ar siaced y record newydd

“Byth yn lico sgrifennu caneuon cyffredin”

Un o uchafbwyntiau’r albwm newydd ydy cân o’r enw ‘Y Purdeb Noeth’ sy’n cychwyn gyda bîts drymiau difyr a David R Edwards yn gwichian ‘o ie’ mewn llais ffalseto.

Wedyn mae yna haenau hypnotig o synnau allweddellau yn gyfeiliant i lafarganu sloganaidd David R Edwards.

Cân am be’ ydy hi?

“Mae’n anodd rhoi dy fys ar unrhyw beth rydw i yn ysgrifennu,” meddai David R Edwards.

“Ni byth yn lico sgrifennu caneuon cyffredin. Ni’n lico mynd â phobol off i rywle gwahanol i’r arferol…

“Does dim neges fel y cyfryw [yn y caneuon ar yr albwm]. Ni ddim yn pregethu unrhyw neges negyddol na dim…

“Mae un-ar-ddeg cân ar yr albwm, ac maen nhw i gyd yn wahanol i’w gilydd. Felly mae e’n anodd disgrifio bod yr un thema yn rhedeg trwyddo fe.”

Ychwanega Pat Morgan: “Mae rhai o’r caneuon yn troi mas ychydig bach yn seicadelic, ac mae’r lleill efallai gyda dim ond llais David. Mae rhai ohonyn nhw fel emyn…”

Mae’r albwm yn agor gydag un o’r caneuon sy’n swnio fel emyn.

Dim ond organ a llais sydd ar ‘Cariad Ceredigion’ wrth i David R Edwards ganu:

‘Carais ambell fenyw o’r sir

Roedd eu tynerwch jest fel plastig…

Mae yna fenywod da yng Nghymru

O Sir Gaerfyrddin i Gaerdydd

Menywod Ceredigion yw’r tywyllwch

A’r gweddill yw golau ffydd

Mae menywod Ceredigion

Yn caru arian yn fwy na cariad

A’r unig gân a ysgrifennais

Maent wedi clywed, yw Y Teimlad!’

Mae’r cyferbyniad rhwng sŵn yr organ a’r dôn emynyddol, a dweud plaen geiriau’r gân, yn drawiadol a doniol.

Ond mae David R Edwards yn mynnu mai dim ond yn rhannol y mae ei dafod yn ei foch.

“Rydw i’n canu o brofiad personol, ma fe’n wir… efallai ychydig o’r tafod yn y boch, ie.

“Ond mae e’ wedi cael ei seilio ar brofiadau personol.”

Ond mae hiwmor yno?

“Gobeithio!” meddai David R Edwards, cyn i Pat Morgan ymhelaethu: “Unwaith rwyt ti wedi gwrando ar yr LP cwpwl o weithiau, mae e’n dod yn fwy doniol pob tro, rwy’n credu.”

Fe gafodd yr 11 cân ar Cwm Gwagle eu recordio dros benwythnos yn stiwdio Frank Naughton yng Nghaerdydd.

“Rydym ni’n licio mynd mewn, gwneud y job, a dod o’na, i fod yn onest,” meddai Daviud R Edwards.

Ac mae Pat Morgan yn cadarnhau bod Datblygu yn gweithio yn gyflym yn y stiwdio.

“Ambell waith, mae David jest yn rhoi lyric sheet i fi a dweud: ‘Cana hwnna’.

“A dyna fydd y tro cyntaf i fi weld y geiriau, a gwneud lan y dôn ar y sbot.

“A wedyn roeddwn i’n meddwl: ‘Oce, dw i wedi cael go ar hwnna’, ac mae e’n dweud: ‘Reit, grêt, diolch!’

“Ac mae yn rhaid i mi roi ffydd yn beth mae David yn ddweud, achos rwy’n dweud: ‘Licen i wneud hwnna eto’, ond mae e’ fel: ‘Na!’”

“Gyda lot o grŵps,” meddai David R Edwards, “maen nhw yn gwneud yr un guitar solo drosodd a drosodd a drosodd a drosodd a drosodd a drosodd!

“Os oes gyda ni rhywbeth yn gyffredin gyda pync, rhywbeth yn y foment, y take cyntaf sy’n cyfrif.

“Dyw e’ byth yn mynd yn fwy nag ail take, pan ni’n gwneud y vocals.”

Murlun Dave Datblygu

Canu, eillio, recordio

Ar y gân newydd ‘123 Dim Byd’ mae David R Edwards yn canu heb gyfeiliant, a dyma gân acapella gyntaf Datblygu.

O ran arddull y gerddoriaeth, nid yw yn anhebyg i gân y byddai Côr Meibion yn morio ei chanu mewn tafarn.

“Roedden ni jest eisiau gwneud rhywbeth gwahanol,” eglura David R Edwards.

“Roeddwn i digwydd bod yn eillio un bora, a daeth y tôn yma i fy mhen i.

“A rhedes i lawr a sgrifennes i’r lyrics. Ac wedyn fues i trwy’r dydd yn canu’r gân hyn ar ben fy hunan, newid y geiriau, sgrifennu mwy o lyrics.

“Wedyn pan ddaeth hi’n amser i recordio, y take cynta’ oedd e’.”

“Mae’r iaith Gymraeg yn ddiogel”

Ar y gân ‘Bwrlwm Bro’ mae David R Edwards yn barnu:

‘Cylch yr iaith sydd yn ffradach

Yr un niwrosis ar pob nerf’

Mae ganddo take difyr ar yr holl drafod sydd yna – o fewn cylch eitha’ cyfyng – ar ddyfodol yr iaith.

“Y busnes yma gyda chael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Y ffordd mae arian yn cael ei fuddsoddi mewn i’r iaith Gymraeg, bydd hwnna yn rhywbeth hawdd i’w gael.

“Ac mae pobol yn mynd ymlaen ac ymlaen ambyti dyfodol yr iaith, roeddwn i jest eisiau cael dig arnyn nhw.

“Achos mae’r iaith yn saff.

“Roedd Saunders Lewis yn anghywir. Dyw e’ ddim wedi marw, ydyw e’?”

Ac fel yr iaith, mae Datblygu yma o hyd, yn dal i greu, bron i 40 o flynyddoedd ers ffurfio… felly beth yw’r gyfrinach?

“Mae Pat a fi yn deall ein gilydd,” eglura David R Edwards.

“Ni’n mwynhau cwmni ein gilydd. Ry’n ni’n ffrindiau agos, a ni’n mwynhau chwarae gyda’n gilydd.

“A tra bydd y sbort o wneud record yn dal i barhau, byddwn ni’n dal i wneud Datblygu.

“Y peth am chwarae yn fyw, doedd hwnna ddim yn hwyl, felly daethon ni a hwnna i ben achos roedd gormod o straen ar y ddau ohonon ni.

“Ond bob tro ry’n ni’n mynd i’r stiwdio recordio, ni wastad yn cael sbort.

“Felly’r rheswm ry’n ni’n parhau i’w wneud e’ yw am ein bod ni’n mwynhau… dw i’n sgrifennu lot o lyrics ac mae Pat yn sgrifennu lot o’r miwsig, felly man a man gwneud rhywbeth gyda fe.”