Yn un o wynebau siriol Heno ers y cychwyn cyntaf nôl yn 1990, mae’r gyflwynwraig wedi cael modd i fyw yn edrych yn ôl ar glipiau o’r archif ar gyfer y gyfres Heno Aur…

Sut brofiad oedd mynd yn ôl mewn amser?!

Mae wedi bod yn gyfle bythgofiadwy i ail-fyw blynyddoedd cynnar Heno. D’yw hi ddim yn teimlo fel 30 mlynedd ers i ni ddechre’r rhaglen yn Abertawe – mae’r blynyddoedd wedi hedfan.