Ym mhen draw’r Mwmbwls, ar gyrion Langland, ac yng nghanol coedwig anghysbell, mae yna adeilad crand o’r enw Plas Gerallt.

Mae’r plas yn gartref i Gymdeithas Fenws IV. Peth cudd a dirgel yw’r gymdeithas – sy’n cynnwys nifer helaeth o brif wleidyddion Cymru, ein hoff ddarlledwyr, beirdd y gadair, awduron ac, wrth gwrs, ein gwyddonwyr.