Efallai nad oedd y Dywysoges Diana, er gwaethaf ei haddysg freintiedig a drudfawr, yn academaidd ddisglair.

Ond doedd hi ddim yn dwp.

Meddwl ei bod hi’n dwp oedd un o’r camgymeriadau mawr wnaeth y teulu brenhinol – a’r peirianwaith tywyll y tu ôl iddyn nhw – pan ddewison nhw Diana Spencer yn gymar i’r brenin nesaf. Fe wnaethon nhw i gyd gamgymryd ei hieuenctid a’i diffyg llwyddiant academaidd am dwpdra.