Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Dw i yng nghanol darllen The Sense of an Ending, Julian Barnes, enillydd Gwobr y Man Booker Prize yn 2011. Nofel fer, sy’n fy siwtio i’r dim. Hanes gŵr busnes canol oed sy’n byw bywyd tawel yn Llundain ond heb ddisgwyl, mae o’n gorfod wynebu’r gorffennol. Mae’r cymeriadau yn ddifyr, er braidd yn freintiedig, ond am y tro cynta’ ers talwm, dw i’n troi’r tudalennau yn reit handi.