Roedd Nasir ofn y tywyllwch.
Yn debyg i’w dad mewn gymaint o ffyrdd na fyddai o byth yn gwybod. Ro’n i’n ei gofio yntau yn ddyn ifanc, ei gerddediad yn ffug-hyderus, yn filwrol. Dechreuodd Nasir efelychu dyn nad oedd o yn ei gofio, gan wneud i mi feddwl fod actio bod yn eofn yn dynn yn un o linynnau ei DNA. Roedd o mor, mor debyg, a minnau’n gweddïo weithiau nad oedd ffawd yn mynd i fod mor greulon efo fy mab ag oedd o wedi bod efo’i dad.
Doedd o ddim yn gorfod bod yn ddewr efo fi.