Mae’n bosib cyn bo hir y bydd rhaid i Mark Drakeford wneud penderfyniadau anodd … unwaith eto.

Y cynta’ fydd pa un ai i gau’r ffiniau rhyngon ni a Lloegr yn wyneb yr amrywiad newydd o’r feirws Corona – amrywiolyn India.

Mi fyddai gwneud hynny cyn neu yn ystod gwyliau hanner tymor y Sulgwyn yn galed ofnadwy ar fusnesau twristiaeth, efallai yn drychinebus.