Y Sadwrn diwethaf aeth 500 o bobol draw i Gastell Caerdydd i fwynhau’r pymthegfed Tafwyl – yr ŵyl gerddorol fyw gyntaf i’w chynnal yng Nghymru ers cychwyn y pandemig.

Bu dros 15,000 yn gwylio’r arlwy ar y we hefyd, sef dwbl y nifer fu’n gwylio’r llynedd.

Yn ogystal â Chymry, bu pobol o’r Ariannin, yr Eidal, Ffrainc, yr Almaen a Chanada yn tiwnio mewn i wylio perfformiadau gan Geraint Jarman, Ani Glass, a Gwilym.