Dyna ddywedodd Mark Drakeford yn ei araith gyntaf i’r Senedd yn dilyn ei enwebiad yn Brif Weinidog yn sgil llwyddiant Llafur Cymru yn yr etholiad ddechrau’r mis.

Dengys arbrofion mewn gwledydd ar draws y byd fod UBI [Universal Basic Income] sy’n cael ei dalu i bawb – p’un a ydyn nhw mewn gwaith ai peidio – yn cynnig sicrwydd economaidd i’r boblogaeth.