Nid yn aml y bydd digwyddiadau Seneddol yn dod â deigryn o lawenydd i fy llygad.

Ond dyna, yn wir, ddigwyddodd fan hyn wrth wylio aelodau newydd Senedd yr Alban yn tyngu eu llwon gwasanaethu yr wythnos ddiwethaf.

Mewn defod seml, urddasol ac emosiynol yn Siambr y Senedd, defnyddiwyd y Saesneg, wrth gwrs, a Gaeleg yr Alban, ac Albaneg.