Does dim angen imi sôn yn y golofn hon am yr heriau amrywiol sy’n wynebu’r Gymraeg. Nid oes angen sôn ychwaith am record ddifrifol Llywodraeth Cymru arni. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf prin yw’r datblygiadau statudol neu gyfreithiol a wnaed, mae twf addysg Gymraeg wedi bod yn waradwyddus o araf, ac mae hynny o Gymru y gellid ei hystyried yn rhan o’r Fro Gymraeg fwy na heb wedi haneru dan stiwardiaeth y blaid Lafur.