Dw i wedi bod yn neud podlediad efo cwpl o fêts ers bron â bod 10 mlynedd. Wnaetho ni ddechrau fe achos oedd grŵp o ni yn arfer gweithio i gwmni cyfryngau eitha’ massive efo stiwdio podledio nad oedden nhw yn defnyddio, ac fel y staff ieuengaf yn y cwmni doedden ni ddim yn cael yr hawl i’w ddefnyddio. Felly, ar ôl gwaith bob nos Fawrth fydde ni’n aros i’r bosses fynd adre’ a llusgo mewn i’r stiwdio i recordio awr o nonsens ac wedyn llusgo mas i’r pub. Fel yna