Mae yna bennod o The Simpsons lle mae llwyth o hysbysebion a mascots cwmnïau yn dod yn fyw ac yn mynd yn rhemp o gwmpas y dre. Er mwyn eu stopio nhw mae pobl y dre yn cael y cyngor yma – jyst anwybyddwch nhw, a heb sylw fydd y creaduriaid yn marw.

Wythnos arall ar y byd yma o fod ar-lein a co ni erthygl arall gan ryw greadur di-Gymraeg am ba mor annefnyddiol yw ein hiaith ni. Ardderchog. Diolch yn fawr.