Mae hi’n 60 mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith fawr bwysig, ‘Tynged yr Iaith’, wnaeth ysbrydoli ton o rebals twymgalon y 1960au i fynd ati i dorri’r gyfraith er mwyn cael parch i’r Gymraeg.
Ac wrth gwrs ei bod hi’n hollol briodol i ddathlu cyfraniad y boi oedd mor ganolog i sefydlu Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith.
Ond mae angen i ni hefyd fod yn dathlu’r bobol hynny sydd ar dir y byw ac yn cyflawni gwyrthiau dros yr heniaith.
Ac mae cylchgrawn Golwg wrth ei fodd yn cael rhoi mymryn o sylw i un o arwyr byw yr iaith Gymraeg yr wythnos hon.
Mae tafarn y Saith Seren yn gadarnle i’r Gymraeg yn nhref Wrecsam – nid ar chwarae bach mae cynnal tŷ potas o unrhyw fath y dyddiau hyn, heb sôn am un sy’n hybu’r iaith mor agos at y ffin.
Rhyw bum milltir sydd rhwng Wrecsam a’r ffin gyda Lloegr, ond ewadd mae yna Gymry da yno.
Ac un o’r rheiny yw Chris Evans, Cadeirydd tafarn y Saith Seren.
Wrth ei waith bob dydd mae Chris yn athro Seicoleg a Bioleg yn yr ysgol uwchradd Gymraeg leol.
Ond yn ei amser sbâr mae yn ganolog i’r gwaith o redeg y Saith Seren, sy’n golygu trefnu gigs Cymraeg, corlannu timau dartiau i roi bywyd yn y bar, sicrhau bod croeso clud yn y dafarn i ddysgwyr ddod ynghyd.
Tra bo Llywodraeth Cymru wedi gwario cannoedd o filoedd o bunnau yn ceisio sefydlu canolfannau Cymraeg i hybu’r iaith yng Nghaerdydd, Llanelli a Bangor, mae criw’r Saith Seren wedi gallu denu buddsoddiad gan gefnogwyr i gadw’r fenter yn hyfyw.
Fe ddathlodd y dafarn ei phen-blwydd yn ddeg oed gyda gig gan Elin Fflur a’i band, ac roedd geiriau’r gantores ar drothwy’r dathlu yn canu fel cloch:
“Mae’n bwysig fod criw mor weithgar â phwyllgor y Saith Seren yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith. Mae’n garreg filltir arbennig i’r criw a gobeithio bydd y Saith Seren yn parhau am ddegawdau i ddod,” meddai Elin wrth golwg360.
Clywch clywch!
Hir oes i’r Saith Seren, a diolch yn fawr iawn i Chris Jones a’r criw – gwirfoddolwyr oll! – am eu brwdfrydedd yn eu brwydr dros barhad yr iaith… o bydded i’r Saith Seren barhau!
Dyddiau disglair i’r Saith Seren – yr holl hanes ar dudalen 14