Mae ymchwiliadau – a diffyg ymchwiliadau – yn gallu codi gwrychyn. Roedd cymal neu ddau mewn adroddiad am hiliaeth yn y Cyngor Celfyddydau a’r Amgueddfa yn ddigon i wneud hynny … trwy awgrymu fod gofyn am allu i siarad Cymraeg mewn rhai swyddi yn gallu eithrio pobl o liw …
“Yn ddiweddar mae’r lobïwyr diorffwys gwrth-Gymraeg wedi cael gafael ar erfyn newydd sef yr hyn y maent hwy yn ei alw yn wrth-hiliaeth. Effaith eu cŵyn yn y pen draw yw ensynio na all pobl o liwiau heblaw gwyn ddim dysgu iaith. Dylasent ddarllen llyfr newydd Simon Brooks, Hanes Cymry, cyn agor eu cegau…Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ateb y cyhuddiadau mewn termau ymataliol iawn. Ond pryd cawn ni glywed gan Adran Comisiynydd yr Iaith? Dyna’r corff a ddylai ddweud wrth yr ynfydion am fynd i ganu.” (Dafydd Glyn Jones ar glynadda.wordpress.com)
Yn ôl Adam Pearce ar nation.cymru, mae’r awgrym yna’n gwneud cam â phobol o liw yn ogystal ag â’r iaith Gymraeg …
“Dw i’n dadlau â’r honiad (sydd wedi’i awgrymu yn fwy na’i ddweud yn blaen yn yr adroddiad ei hun…), fod gofynion iaith Gymraeg, yn enwedig o ran cyfleoedd swyddi, yn eithirio pobol o liw. Yn ogystal â bod yn ffals, mae’r honiad yma hefyd yn ofnadwy o beryglus a niweidiol iawn, ac mae angen ei wrthod yn bendant. Mae’n ymddangos bod yr honiad – nad yw’r adroddiad ei hun yn cynnig tystiolaeth ar ei gyfer – wedi ei seilio ar y dybiaeth mai ychydig neu ddim pobol o liw sy’n gallu siarad Cymraeg. Yn ogystal â bod yn gwbl anghywir yn hanesyddol…mae’r camargraff ynddo’i hun yn achosi tramgwydd, yn trin siaradwyr Cymraeg o liw fel pe na baen nhw’n bod.”
Eisio adroddiad y mae Andrew R T Davies, arweinydd presennol y Ceidwadwyr Cymreig – trwy ymchwiliad Covid ar wahân i Gymru. O ystyried mai plaid unolaethol ydi hi, mae John Dixon yn gweld hynny’n od …
“…mae wedi troi at ddweud y bydd Cymru wedi ei thynghedu i ‘un bennod unigol, ddisylw’ mewn ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig. I fi, mae hynna’n swnio fel stori gyffredin bywyd Cymru, ond mae’r ffaith fod arweinydd y Ceidwadwyr honedig ‘Gymreig’ yn dweud mor blaen ac agored mai’r broblem gyda phrosesau sy’n cael eu creu ledled y DU gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw eu bod yn sicr i fwy neu lai o anwybyddu’r amgylchiadau gwahanol yng Nghymru naill ai’n droedigaeth ffordd-i-Ddamascus neu’n arwydd o ddiffyg hunan-ymwybyddiaeth anhygoel bron. Fyddai fawr neb yn betio ar y dewis cynta.” (borthlas.blogspot.com)
Ac, wrth i rai ddechrau galw am arweinydd newydd i Blaid Cymru, mae Ifan Morgan Jones ar nation.cymru yn gofyn iddyn nhw ystyried adroddiadau rhai fel Richard Wyn Jones am bleidleisio a hunaniaeth yng Nghymru …
“Mae’r canfyddiadau ‘plaen’ yn dangos fod y rhai a oedd yn teimlo’n gry’ eu bod yn Gymry nid Prydeinwyr yn dueddol o bleidleisio i Blaid Cymru, y rhai a oedd yn teimlo’n weddol gyfartal yn Gymry a Phrydeinwyr yn pleidleisio i Lafur, tra bod y rhai a oedd yn teimlo’n Brydeinwyr yn hytrach na Chymreig yn pleidleisio i’r Ceidwadwyr. Er mwyn ennill, mae ar Blaid Cymru angen rhangor o bobol sy’n teimlo’n Gymreig nid Prydeinig…dim ond mudiad llawr gwlad cenedlaethol all sicrhau’r math yna o newid sylfaenol yn ffordd pobol Cymru o’u gweld eu hunain.”