Blog byw o wersyll haf rygbi’r Cofis
Os hoffech chi weld y wên ar wynebau plant Caernarfon wrth chwarae “Pen, ysgwyddau, coesau, pêl”, neu os mai gweld cyn-ganolwr y Crysau Duon yn ysbrydoli’r to newydd fyddai’n eich cyffroi – ewch i Caernarfon360.
Hannah Hughes yw’r cyntaf i fanteisio ar y cyfle newydd i greu blog byw ar ei gwefan fro. Trwy rannu lluniau, fideos a diweddariadau yn fyw o ŵyl rygbi i blant, llwyddodd i rannu naws a hwyl y gwersyll haf â rhieni a phawb adref.
Wrth i ddigwyddiadau ailddechrau’n araf bach yn lleol, tybed a fydd mwy o gymunedau’n cymryd y cyfle i rannu’r holl gyffro mewn blog byw?
On’d oedden nhw’n ddyddiau da?
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer o bobl wedi cymryd y cyfle i edrych yn ôl ar sut le oedd eu pentrefi yn y dyddiau a fu. Un o’r rheiny yw Gwyneth Davies, sydd wedi cael sawl sgwrs ddifyr gyda hwn a’r llall am bentref Llanybydder, a sut mae pethau wedi newid ar hyd y blynyddoedd.
Mae Romino’s ger y sgwâr top wedi bod yn gaffi ers blynyddoedd, ond oeddech chi’n gwybod mai siop gwerthu lledr, losin a theganau oedd yno ar un adeg? Beth am gymryd y cyfle i hel atgofion am eich pentref chi? Ewch ar Clonc360 i gael darllen am fwy o hanesion Llanybydder.
Merched Bethesda yn bencampwyr y gogledd
Tîm Criced Merched Bethesda ydy enillwyr cyntaf Cynghrair Criced Merched Gogledd Cymru. Mae’r gynghrair yn cynnwys clybiau ar draws y Gogledd, fel Bae Colwyn, Llandudno, Dolgellau a Llaneurgain, a gorffennodd Bethesda’r tymor yn ddiguro, gyda 14 buddugoliaeth, a 70 pwynt.
Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed wrth baratoi ar gyfer cystadlu yn y gynghrair ers peth amser, ac mae ymroddiad, brwdfrydedd a thalent aelodau’r clwb wedi sicrhau llwyddiant hollol haeddiannol. I weld mwy o luniau, ewch i Ogwen360.
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Ffordd yng Nghaernarfon ar y newyddion, gan Osian Owen ar Caernarfon360
- Dadorchuddio blaen siop O Law i Law, gan Osian Owen ar Caernarfon360
- On’d oedden nhw’n ddyddiau da? gan Gwyneth Davies ar Clonc360