Bu farw un o fy hoff gomedïwyr, Sean Lock, yr wythnos ddiwethaf ag yntau ddim ond yn 58 mlwydd oed. Roedd Lock yn stand-yp da iawn ond fel gwestai neu gapten ar raglenni comedi panel yr oedd yn rhagori. Yr oedd ei hiwmor swreal cwbl unigryw yn gweddu’n berffaith i’r cyfrwng hwnnw.